Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:
Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.
Polisi preifatrwyddMae hi bob amser yn fraint cael arwain mewn gweddi yng nghynulleidfa’r saint yn yr addoliad cyhoeddus ar y Sul. Ond nid gorchwyl hawdd i rywun sy’n gorfod gwneud hyn yn gyson. Mae’n hawdd iawn mynd yn amherthnasol ac ailadroddus ac, o ganlyniad, nid oes neb mewn gwirionedd yn cydweddïo â’r gweddïwr: sef un o’r…
Darllen ymlaenDyn duwiol a gweinidog yr efengyl yn Dundee oedd Robert Murray McCheyne (1813-43), a’i ddylanwad yn fwy o lawer nag y gellid ei ddisgwyl o gofio iddo farw’n 29 oed. Dim ond am 7 mlynedd y bu yn y weinidogaeth a hynny’n cynnwys sawl cyfnod o waeledd. Er hyn, gwelodd fendith ryfeddol ar ei waith. …
Darllen ymlaenYr oedd y rhain oll yn dyfalbarhau yn unfryd mewn gweddi… – Actau 1:14 Doeddwn i ddim wir wedi ystyried mynd i gwrdd gweddi’r eglwys a minnau ond yn fyfyrwraig, ond wrth glywed am y fendith oedd i’w chael yn y cyrddau hyn, penderfynais ddechrau mynd. Roedd gen i ambell i ragfarn: gweddïau a oedd…
Darllen ymlaenCefais dröedigaeth yn y coleg ym Mangor. Y diwrnod ar ôl i ffrind a minnau gyffesu ein ffydd yn yr Arglwydd Iesu, fe ofynnodd cyd-fyfyriwr inni, Elwyn Davies, a oeddem wedi darllen y Beibl a thystiolaethu wrth rywun. Awgrymodd y byddai’n dda inni ddweud wrth ein rhieni. Dywedodd fy ffrind na allai hi byth ddweud…
Darllen ymlaenCyn cael plant, fy argraff oedd mai peth hawdd, didrafferth fyddai gweddïo gyda’r teulu, ond ar ôl cael tri o blant bywiog, rwy’n sylweddoli bod eu cael i eistedd yn dawel ac yn llonydd yn her ynddi ei hun, heb sôn am eu cael i werthfawrogi mawredd yr hyn a wnawn wrth weddïo a’r un…
Darllen ymlaenEffeithiwyd ar fy mywyd gweddi yn fawr gan hen weinidog a ddywedodd ei fod yn gweddïo Gweddi’r Arglwydd yn ddyddiol. Nododd fod gweddi wedi dod yn fwy ystyrlon, ac yn fwy heriol, wrth iddo ddeall y geiriau yn well a gorfod eu cymhwyso yn bersonol. Yn dilyn hyn, daeth Gweddi’r Arglwydd yn default setting i’m…
Darllen ymlaen‘Pam gweddïo?’ Mae’n gwestiwn a ofynnir am bob math o resymau. Mae rhai’n ei ofyn am na welant unrhyw synnwyr mewn gweddi; eraill am eu bod yn credu nad oes ateb i weddi; eraill am eu bod yn ystyried gweddi’n ddefod grefyddol sych; ac eraill am iddynt gael trafferth i weddïo, ac yn arbennig i…
Darllen ymlaenMae gweddi yn rhodd lawen ac adfywiol i’r enaid ond hefyd yn ddisgyblaeth. Mae’r llawenydd hwnnw o bosibl yn felysach wrth weddïo mewn cwmnïaeth a baich y ddisgyblaeth yn ysgafnhau drwy bartneriaeth. Mae’n llesol felly i weddïo gyda’n gilydd, a hynny weithiau mewn parau neu drioedd. Dewiswch yn ddoeth – bydd eich grŵp yn fwy…
Darllen ymlaenO bryd i’w gilydd rydym yn teimlo nad oes digon o oriau yn y dydd i gyflawni pob peth. Yn ogystal, mae adegau pan fo pwysau gwaith yn anodd i’w ddioddef a’r straen yn ein profi i’r eithaf. Ar ben hyn i gyd, mae cymaint i dynnu ein sylw a llenwi bob munud o’r dydd,…
Darllen ymlaen