Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:
Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.
Polisi preifatrwyddDiarhebion 12:16-28 ‘AR FFORDD CYFIAWNDER Y MAE BYWYD’ Dweud y gwir wrth siarad yw pwyslais amlwg yr adran hon. Dyma neges sy’n berthnasol i bob oedran a phob rhan o gymdeithas – ac i’r eglwys hefyd o ran hynny. Y gwir Yn syml iawn, ‘dweud y gwir’ yw’r cyngor sylfaenol (17). ‘Geiriau gwir’ (19) sydd…
Darllen ymlaenDiarhebion 12:1-15 ‘SAIF TŶ’R CYFIAWN YN GADARN’ Coron Wedi’r sylw am anrhydedd gwraig yn 11:16, cyhoedda 12:4 fod gwraig ‘fedrus’ – neu ‘rinweddol’, ‘ragorol’ – yn goron i’w gŵr. Diddorol yw’r gair ‘coron’ yma. Nid yw gwraig i fod dan draed ei gŵr, yn gaethferch i weini arno. Yn hytrach, mae hi nid yn unig…
Darllen ymlaenDiarhebion 11:1-15 ‘GWAREDIR Y CYFIAWN’ Dichell Duw da ac uniawn yw Duw’r Beibl (Salm 25:8), a’i ddymuniad yw gweld ei bobl yn debyg iddo. Fel y mae’n ffieiddio twyll (1), felly hefyd dylai’r rhai sy’n ei addoli ymwrthod â phob gair a gweithred sy’n sawru o gamarwain eraill. Mae Cristion sy’n ymroi i ymddygiad dichellgar…
Darllen ymlaenDiarhebion 10:17-32 ‘NODDFA I’R UNIAWN’ Gwrthod Rhoddwyd anogaeth droeon yn y penodau blaenorol i beidio â gollwng gafael ar gyngor doeth. Ond pan gawn ein ceryddu am ryw fai – mawr neu fân – mae rhywbeth ynom i gyd sy’n mynnu gwrthryfela. Ein tuedd yw ystyried cerydd yn rhyw fath o sarhad – ac mae…
Darllen ymlaenDiarhebion 10:1-16 ‘BYW’N UNIAWN’ Yn yr adran newydd hon ceir casgliad o ddiarhebion unigol sy’n ymwneud ag agweddau ymarferol ar fywyd bob dydd. Nid oes modd trafod pob un o’r rhain mewn cyfrol fach fel hon, ond ceisir tynnu sylw at rai themâu pwysig sy’n codi. Cyfoeth Nod llawer yw ennill cyfoeth: nid dod yn…
Darllen ymlaenDiarhebion 9:1-18 ‘I CHWI GAEL BYW’ Dyma’r bennod olaf cyn y casgliad helaeth o ddiarhebion unigol sy’n dechrau yn 10:1, ac ynddi manteisia Solomon ar y cyfle i grynhoi a chadarnhau’r egwyddorion cyffredinol a gafwyd yn y penodau blaenorol. Gwahoddiad Cychwynna drwy gyflwyno ‘doethineb’ unwaith eto fel person. Mae ‘saith golofn’ yn ei thŷ…
Darllen ymlaenDiarhebion 8:1-36 ‘FI, DOETHINEB’ Dyma un o benodau mwyaf trawiadol yr Hen Destament. Ynddi caiff doethineb ei phortreadu fel gwraig sy’n galw’n daer ar bobl i wrando arni. Wrth fyfyrio uwchben y darn hwn, ni allwn ond rhyfeddu at harddwch a gwerth gwir ddoethineb. Cri Yn adnodau 1-3 ceir darlun o ddoethineb yn llefain yn…
Darllen ymlaenDiarhebion 7:1-27 ‘FEL YCH YN MYND I’R LLADD-DY’ Fe’n rhybuddiwyd eisoes rhag ildio i demtasiynau rhywiol (2:16-19; 5:3-14; 6:24-35). Gŵyr Solomon mor hawdd yw inni gael ein denu ganddynt, ac mewn oes sydd wedi troi rhyw’n obsesiwn, mae gwir angen inni gymryd ei rybuddion o ddifrif. Rhybudd 1 Gall cwmni cyfeillion annuwiol fod yn fagl…
Darllen ymlaenDiarhebion 6:20-35 ‘Y MAE GORCHYMYN YN LLUSERN’ Patrwm amlwg Solomon wrth gyfarch ei ‘fab’ yw mynegi egwyddorion cyffredinol – e.e. pwysigrwydd gwrando ar y ‘tad’ a dilyn ei gyngor – cyn troi at faes neu feysydd penodol lle mae’r cyngor hwn o werth arbennig. Dyma’r drefn eto yn y darn hwn. Goleuni Mae’r mab i…
Darllen ymlaenDiarhebion 6:1-19 RHYBUDDION Mechnïo Rhybudd rhag cytuno i fynd yn gyfrifol am ddyledion rhywun arall sydd yn adnodau 1-5. Os bydd y person hwnnw’n methu â thalu ei ddyledion, syrthia’r baich ar y sawl sydd wedi ymrwymo i fod yn gyfrifol amdanynt. Gofid fydd y canlyniad, oherwydd y colledion ariannol ond hefyd oherwydd ei fod…
Darllen ymlaen