Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Adnoddau wedi eu tagio gyda:

Defosiynol

25 Maw, 2020

Defosiwn Dyddiol MEC – 25 Mawrth 2020

gan John Treharne

Nid oes neb ohonoch i fynd allan trwy ddrws ei dŷ hyd y bore. Exodus 12:22   Wrth i mi ysgrifennu hyn heddiw, mae’r Prif Weinidog newydd gyhoeddi mesurau tipyn mwy llym er mwyn ceisio atal lledaeniad yr haint Corona. Dyma nhw yn fras: Siopa am bethau angenrheidiol yn unig. Un math o ymarfer corff…

Darllen ymlaen
24 Maw, 2020

Defosiwn Dyddiol MEC – 24 Mawrth 2020

gan Steffan Job

Disgwyliaf wrth yr ARGLWYDD; y mae fy enaid yn disgwyl, a gobeithiaf yn ei air; y mae fy enaid yn disgwyl wrth yr Arglwydd yn fwy nag y mae’r gwylwyr am y bore, yn fwy nag y mae’r gwylwyr am y bore. O Israel, gobeithia yn yr ARGLWYDD, oherwydd gyda’r ARGLWYDD y mae ffyddlondeb, a chydag…

Darllen ymlaen
15 Mai, 2017

Bara’r Bywyd Diarhebion 31:10-31

gan Gwyn Davies

Diarhebion 31:10-31 Y WRAIG FEDRUS Daw’r llyfr i ben drwy ganu molawd hyfryd i’r wraig fedrus a’i dylanwad llesol ar ei theulu a’i chymuned. Nid yw’r Beibl yn unman yn difrïo merched; yma caiff gwraig barch a chlod hollol deilwng. Diwydrwydd Caiff diwydrwydd diflino’r wraig fedrus sylw arbennig yn adnodau 13-19. Nid yw’n ofni gwaith…

Darllen ymlaen
15 Mai, 2017

Bara’r Bywyd Diarhebion 31:1-9

gan Gwyn Davies

Diarhebion 31:1-9 CYNGOR I FRENIN Nid oes gennym fwy o wybodaeth am Lemuel nag am Agur (30:1), ar wahân i’r gosodiad mai brenin Massa oedd Lemuel. Diddorol nodi hefyd mai ei fam a ddysgodd y cyngor a ganlyn iddo (1). Peryglon Mae Lemuel yn enwi dau berygl difrifol y dylai pob brenin fod yn ymwybodol…

Darllen ymlaen
15 Mai, 2017

Bara’r Bywyd Diarhebion 30:21-33

gan Gwyn Davies

Diarhebion 30:21-33 RHIFOLION A RHYBUDD Yn adnodau 10-20 dilynir cyfres o rybuddion gan sylwadau sy’n seiliedig ar rifolion; yn awr cyflwynir rhagor o rifolion gyda rhybudd ar y diwedd. Rhifolion Yn gyntaf, rhoddir sylw i bedwar o bethau sy’n peri gofid (21-23). Diddorol nodi fod dau ohonynt yn ymwneud â newidiadau cymdeithasol chwyldroadol, gyda ‘gwas’…

Darllen ymlaen
15 Mai, 2017

Bara’r Bywyd Diarehebion 30:10-20

gan Gwyn Davies

Diarhebion 30:10-20 RHYBUDDION A RHIFOLION Wedi math o ragarweiniad i gyfraniad Agur yn 30:1-9, yn awr cyflwynir ei ddiarhebion. Rhybuddion Mae nifer o rybuddion pwysig i’w gweld yn y diarhebion hyn: Yn gyntaf, dylid gwylio rhag ymyrryd mewn materion nad ydynt yn fusnes i ni (10). Mae gwas yn bennaf atebol i’w feistr ei hun,…

Darllen ymlaen
15 Mai, 2017

Bara’r Bywyd Diarhebion 30:1-9

gan Gwyn Davies

Diarhebion 30:1-9 ‘Y MAE POB UN O EIRIAU DUW WEDI EI BROFI’ Ni wyddom pwy oedd Agur ac nid oes sicrwydd ynghylch lleoliad Massa, ond yn ôl 1 Brenhinoedd 4:30-31 roedd eraill heblaw Solomon yn nodedig am eu doethineb. Nid dysgu gwersi ysbrydol newydd yw prif nod Agur; yn hytrach, cynigia sylwadau craff arno’i hun…

Darllen ymlaen
15 Mai, 2017

Bara’r Bywyd Diarhebion 29:15-27

gan Gwyn Davies

Diarhebion 29:15-27 ‘LLE NA CHEIR GWELEDIGAETH’ Wrth i’r adran hon ddod i ben, ailgyflwynir nifer o themâu pwysig: Gwialen Mae’r llyfr hwn wedi cyfeirio droeon at bwysigrwydd disgyblu plant, gan gynnwys cosb gorfforol petai angen (e.e. 13:24; 22:15; 23:13-14). Ni ddylid cymryd yr adnodau hyn fel unrhyw fath o esgus dros guro plentyn yn ddidrugaredd;…

Darllen ymlaen
15 Mai, 2017

Bara’r Bywyd Diarhebion 29:1-14

gan Gwyn Davies

Diarhebion 29:1-14 ‘Y MAE’R CYFIAWN YN CANU’N LLAWEN’ Y cyfiawn a chyfiawnder Unwaith eto mae’r rhai cyfiawn yn cael eu canmol, a chyfiawnder yn cael ei gyflwyno fel peth llesol a buddiol. Mae llywodraeth, neu gynnydd, y cyfiawn yn peri llawenydd i bobl (2), ac yn dwyn bendith i’r wlad (4). Gwelir ffrwyth ei fywyd…

Darllen ymlaen
15 Mai, 2017

Bara’r Bywyd Diarhebion 28:19-28

gan Gwyn Davies

Diarhebion 28:19-28 ‘CAIFF Y FFYDDLON LAWER O FENDITHION’ Ymddiried yn yr Arglwydd Yn yr adnodau hyn cyflwynir portread hyfryd ond heriol o’r sawl sy’n ‘ymddiried yn yr Arglwydd’ (25). Nodir nifer o agweddau pwysig ar ei gymeriad a’i fywyd ymarferol, er addysg i bob un ohonom: Mae’n gweithio’n galed ac yn gyson, gan gymryd ei…

Darllen ymlaen