Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Adnoddau wedi eu tagio gyda:

Bywyd Cristnogol

26 Maw, 2019

Pam Cristnogaeth?

gan Gwynn Williams

Pam Cristnogaeth   ISBN 978-1-85049-268-9 148x148mm 28pp £1.00 Ar gael i brynu yma Rhan o gyfres ‘y ffordd’ Fel y gwyddom, mae newid mawr wedi bod yn ein cymdeithas gyda nifer y bobl sy’n honni dilyn crefydd yn lleihau ac o’r rhai sydd yn dilyn crefydd, nid Cristnogaeth yw’r unig ddewis bellach. Gyda’r fath ddewis…

Darllen ymlaen
3 Rhag, 2014

Pam oedfa nos?

gan Kevin de Young

Pam oedfa nos? Rwy wedi mynychu’r cwrdd ar fore a nos Sul gydol fy mywyd. Pan oeddwn yn blentyn aem i’r cwrdd fel teulu yn y bore, wedyn i’r ysgol Sul, adref am gwpwl o oriau, ac yna’n ôl â ni i’r eglwys ar gyfer y cwrdd nos. Roedd y gynulleidfa wastad yn llai yn…

Darllen ymlaen
3 Meh, 2014

Yr Efengyl: Newyddion Da!

gan Gwyon Jenkins

Tua dechrau ei weinidogaeth gyhoeddus, pregethodd Iesu Grist; ‘Yr amser a gyflawnwyd, a theyrnas Dduw a nesaodd: edifarhewch, a chredwch yr efengyl’. Tipyn o beth i saer o Nasareth i’w ddweud – ond mae’r geiriau’n datgelu mai nid saer, neu hyd yn oed person, arferol oedd hwn. Mae Crist yn pwysleisio yma fod ganddo newyddion…

Darllen ymlaen
3 Meh, 2014

Trwy ddirgel ffyrdd

gan Edmund Owen

Pan olchodd Iesu draed Simon Pedr roedd y weithred yn ddirgelwch. ‘Arglwydd,’ meddai, ‘a wyt ti am olchi fy nhraed i?’ Mae ateb Iesu, nid yn unig i Pedr, ond hefyd i bawb sy’n eu cael eu hunain mewn penbleth tebyg: ‘Ni wyddost ti ar hyn o bryd beth yr wyf am ei wneud, ond…

Darllen ymlaen
3 Meh, 2014

Trobwynt: Deacon Manu

Ers symud o Waikato, Seland Newydd, i dre’r Sosban, mae Deacon Manu bellach yn ei wythfed tymor gyda thîm y Scarlets. Yn frodor o Seland Newydd, chwaraeodd i fawrion Maori Seland Newydd cyn penderfynu ymroi i dîm cenedlaethol Ffiji (gwlad ei fam). Cafodd y fraint o fod yn gapten ar ei wlad yng Nghwpan y…

Darllen ymlaen
6 Gor, 2012

Yr eglwys gyfan yn darllen y Beibl cyfan

gan Steve Levy

Bu farw mam ifanc yn ein heglwys, a chefais y fraint o glywed ei mab yn esbonio sut yr atgyfnerthodd Duw ef trwy’r Beibl yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae sôn bod rhai o’r nyrsys wedi dychwelyd i’w gwaith ar ôl yr angladd, yn rhyfeddu at y gobaith a gafwyd yno. Mae dyn o Iran…

Darllen ymlaen
6 Maw, 2012

Arwain mewn Gweddi

gan Gwynn Williams

Mae hi bob amser yn fraint cael arwain mewn gweddi yng nghynulleidfa’r saint yn yr addoliad cyhoeddus ar y Sul. Ond nid gorchwyl hawdd i rywun sy’n gorfod gwneud hyn yn gyson. Mae’n hawdd iawn mynd yn amherthnasol ac ailadroddus ac, o ganlyniad, nid oes neb mewn gwirionedd yn cydweddïo â’r gweddïwr: sef un o’r…

Darllen ymlaen
6 Maw, 2012

Bywyd Gweddi Robert Murray McCheyne

gan Rhun Murphy

Dyn duwiol a gweinidog yr efengyl yn Dundee oedd Robert Murray McCheyne (1813-43), a’i ddylanwad yn fwy o lawer nag y gellid ei ddisgwyl o gofio iddo farw’n 29 oed. Dim ond am 7 mlynedd y bu yn y weinidogaeth a hynny’n cynnwys sawl cyfnod o waeledd. Er hyn, gwelodd fendith ryfeddol ar ei waith.         …

Darllen ymlaen
6 Maw, 2012

Bendith yn y Cwrdd Gweddi: Profiad Mari Elin

gan Mari Elin Morgan

Yr oedd y rhain oll yn dyfalbarhau yn unfryd mewn gweddi… – Actau 1:14 Doeddwn i ddim wir wedi ystyried mynd i gwrdd gweddi’r eglwys a minnau ond yn fyfyrwraig, ond wrth glywed am y fendith oedd i’w chael yn y cyrddau hyn, penderfynais ddechrau mynd. Roedd gen i ambell i ragfarn: gweddïau a oedd…

Darllen ymlaen
6 Maw, 2012

Gweddïo ar hyd Taith Bywyd

gan Rina Macdonald

Cefais dröedigaeth yn y coleg ym Mangor. Y diwrnod ar ôl i ffrind a minnau gyffesu ein ffydd yn yr Arglwydd Iesu, fe ofynnodd cyd-fyfyriwr inni, Elwyn Davies, a oeddem wedi darllen y Beibl a thystiolaethu wrth rywun. Awgrymodd y byddai’n dda inni ddweud wrth ein rhieni. Dywedodd fy ffrind na allai hi byth ddweud…

Darllen ymlaen