Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Categori:

Esboniad

15 Mai, 2017

Bara’r Bywyd Diarhebion 18:1-13

gan Gwyn Davies

Diarhebion 18:1-13 ‘Y MAE ENW’R ARGLWYDD YN DŴR CADARN’ Cawn nifer o gyfeiriadau eto yn yr adnodau hyn at eiriau – ac yn enwedig at y drygioni sy’n ganlyniad i eiriau ffôl (4, 6, 7, 8, 13). Neges gyson y llyfr hwn yw pwysigrwydd geiriau fel arwydd o gyflwr y galon (2). Fodd bynnag, gan…

Darllen ymlaen
15 Mai, 2017

Bara’r Bywyd Diarhebion 17:15-28

gan Gwyn Davies

Diarhebion 17:15-28 ‘… YN GYFAILL BOB AMSER’ Ceir yn yr adnodau hyn ddiarhebion i godi calon a rhybuddio, i ddysgu a cheryddu. Mae ‘holl arfaeth Duw’ (Act. 20:27) yn cyffwrdd â phob rhan o fywyd, oherwydd fod y ddaear gyfan yn perthyn iddo (Salm 24:1). Cyfiawnder Mae Duw yn gwbl gyfiawn (Salm 119:137), ac felly…

Darllen ymlaen
15 Mai, 2017

Bara’r Bywyd Diarhebion 17:1-14

gan Gwyn Davies

Diarhebion 17:1-14 ‘YR ARGLWYDD SY’N PROFI CALONNAU’ Gwedd negyddol sydd i lawer o’r adran hon, a da cael y rhybuddion yma. Byd pechadurus yw hwn, a phobl bechadurus sy’n byw ynddo. Bod yn naïf – ac yn anysgrythurol – yw tybio’n wahanol. Gan fod yr Arglwydd yn adnabod ac yn profi’r galon (3), bydd ei…

Darllen ymlaen
15 Mai, 2017

Bara’r Bywyd Diarhebion 16:16-33

gan Gwyn Davies

Diarhebion 16:16-33 ‘GWELL NAG AUR YW ENNILL DOETHINEB’ Mae cael ein blaenoriaethau’n iawn yn eithriadol bwysig wrth fyw yn y byd. Ceisio arian a bywyd cysurus y mae llawer. Yn ôl Diarhebion, fodd bynnag, nid dyma’r pethau sy’n wirioneddol werthfawr. Nid yw cyfoeth i’w gymharu â doethineb (16). Nid yw henaint i’w ddibrisio; yn hytrach,…

Darllen ymlaen
15 Mai, 2017

Bara’r Bywyd Diarhebion 16:1-15

gan Gwyn Davies

Diarhebion 16:1-15 ‘CYFLWYNA DY WEITHREDOEDD I’R ARGLWYDD’ Ceir nifer o adnodau yn yr adran hon sy’n troi ein sylw at natur a ffyrdd Duw. Yng ngoleuni’r adnodau hyn, mae anogaeth adnod 3, sef ‘Cyflwyna dy weithredoedd i’r Arglwydd’, yn hynod berthnasol. Pwyso Mae tuedd naturiol ynom ni i gyd i dybio mai ni sy’n iawn…

Darllen ymlaen
15 Mai, 2017

Bara’r Bywyd Diarhebion 15:18-33

gan Gwyn Davies

Diarhebion 15:18-33   ‘BETH SY’N WELL NA GAIR YN EI BRYD?’   Ni allwn fynd yn bell yn Llyfr y Diarhebion heb sylwi ar y lle amlwg a roddir i eiriau – ein geiriau ein hunain a geiriau pobl eraill. Mae ein hagwedd at eiriau yn ffenestr bwysig i gyflwr y galon; yn wir, yn…

Darllen ymlaen
15 Mai, 2017

Bara’r Bywyd Diarhebion 15:1-17

gan Gwyn Davies

Diarhebion 15:1-17 ‘Y MAE CALON HAPUS YN WLEDD WASTADOL’ Beth sy’n gwneud ‘calon hapus’ (13, 15)? Beth yw cyfrinach gwir lawenydd? Yn ôl y Testament Newydd, perthynas wirioneddol â Duw drwy ffydd yng Nghrist yw’r allwedd hollbwysig (Phil. 3:1; 4:4; cymharer Gal. 5:22). Cawn gipolwg ar rai agweddau ar y llawenydd hwn yn rhan gyntaf…

Darllen ymlaen
15 Mai, 2017

Bara’r Bywyd Diarhebion 14:20-35

gan Gwyn Davies

Diarhebion 14:20-35 ‘MAE OFN YR ARGLWYDD YN FFYNNON FYWIOL’ Gwelir effeithiau llesol ‘ofn yr Arglwydd’ (26, 27) ym mhob rhan o fywyd, gan gynnwys ein hagwedd at wahanol fathau o dlodi. Tlodi 1 Yn aml caiff y tlodion eu hanwybyddu neu eu dirmygu (20); ond bydd ‘ofn yr Arglwydd’ yn peri i’r Cristion ymateb yn…

Darllen ymlaen
15 Mai, 2017

Bara’r Bywyd Diarhebion 14:1-19

gan Gwyn Davies

Diarhebion 14:1-19 ‘DOETHINEB Y CALL’ Ffyddlondeb Agwedd bwysig iawn ar ‘ddoethineb y call’ (8) yw bod yn ffyddlon – h.y. yn gyson, yn ddibynadwy bob amser. Dyma ran o ‘ffrwyth yr Ysbryd’ (Gal. 5:22), sef nodweddion y gwir Gristion. Un felly yw Duw ei hun (1 Cor. 1:9; 10:13; 1 Ioan 1:9). Ond da cofio…

Darllen ymlaen
15 Mai, 2017

Bara’r Bywyd Diarhebion 13:13-25

gan Gwyn Davies

Diarhebion 13:13-25 ‘DEALL DA’ Dirmyg Am fod pobl wrth natur yn feirw’n ysbrydol (Eff. 2:1) ac yn elynion i Dduw (Rhuf. 8:7), go brin fod disgwyl iddynt barchu ei Air, er mai diben y Gair yw eu goleuo a’u dysgu ynghylch materion pwysicaf bywyd. Ond ffolineb yw dirmygu cyngor llesol Duw (13; cymharer 2 Cron….

Darllen ymlaen