Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Categori:

Esboniad

15 Mai, 2017

Bara’r Bywyd Diarhebion 28:13-18

gan Gwyn Davies

Diarhebion 28:13-18 ‘GWYN EI FYD Y SAWL SY’N OFNI’R ARGLWYDD’ Adran fer yw hon, ond mae ynddi wersi eithriadol o bwysig. Cuddio, cyffesu, cefnu, caledu Yn y cyfeiriadau at Dduw yn Llyfr y Diarhebion, ei arglwyddiaeth dros bob rhan o fywyd a’r angen i’w anrhydeddu’n ymarferol o ddydd i ddydd sy’n cael y sylw pennaf….

Darllen ymlaen
15 Mai, 2017

Bara’r Bywyd Diarhebion 28:1-12

gan Gwyn Davies

Diarhebion 28:1-12 ‘SAIF Y CYFIAWN YN GADARN’ Cyfiawnder Mae yn yr adnodau hyn wirioneddau gwerthfawr ynghylch y ‘cyfiawn’ a ‘cyfiawnder’. Mae rhyw gadernid hynod yn perthyn i’r ‘cyfiawn’ (1); gellir dibynnu arno ym mhob sefyllfa. O geisio’r Arglwydd mae’n gweld popeth o bersbectif Duw, ac felly’n deall ystyr a gwerth ‘cyfiawnder’, ynghyd â llawer o…

Darllen ymlaen
15 Mai, 2017

Bara’r Bywyd Diarhebion 27:15-27

gan Gwyn Davies

Diarhebion 27:15-27 ‘Y MAE’R GALON YN DDRYCH O’R UNIGOLYN’ Hunan-les Un o themâu sylfaenol y llyfr hwn yw bod bywyd sy’n anrhydeddu Duw yn siŵr o wneud lles i’r unigolyn a’r gymdeithas o’i amgylch (gweler, e.e., 3:5-10). Mae ceisio lles i’r hunan ar wahân i Dduw, ar y llaw arall, yn esgor ar bob math…

Darllen ymlaen
15 Mai, 2017

Bara’r Bywyd Diarhebion 27:1-14

gan Gwyn Davies

Diarhebion 27:1-14 ‘FY MAB, BYDD DDOETH’ Ymffrostio Ceir tuedd ym mhob un i ymffrostio am yr hyn y mae’n mynd i’w wneud (1) neu am yr hyn y mae wedi ei gyflawni (2). Ond mae Duw’n ein gweld fel yr ydym – yn wan, yn fethedig, yn bechadurus. O’i flaen ef, felly, nid oes lle…

Darllen ymlaen
15 Mai, 2017

Bara’r Bywyd Diarhebion 26:1-28

gan Gwyn Davies

Diarhebion 26:1-28 Y FFŴL, Y DIOGYN, A’R RHAGRITHIWR Ym mhennod 26 rhoddir sylw i dri dosbarth o bobl rydym wedi dod ar eu traws yn aml yn y llyfr hwn – ac yn ein bywydau bob dydd. Ein rhybuddio rhagddynt yw’r nod, ond mae’r darluniau yma hefyd yn ddrych i ni ein hunain: ai rhai…

Darllen ymlaen
15 Mai, 2017

Bara’r Bywyd Diarhebion 25:15-28

gan Gwyn Davies

Diarhebion 25:15-28 ‘FE DÂL YR ARGLWYDD ITI’ Mae pwysigrwydd ein hymwneud â ni ein hunain a phwysigrwydd y modd yr ydym yn ymwneud â phobl eraill yn themâu amlwg yn y llyfr hwn. Cawn yn yr adnodau hyn enghreifftiau gwerthfawr o’r naill a’r llall. Ymwneud â ni ein hunain Mae ‘rheoli ei dymer’ yn fater…

Darllen ymlaen
15 Mai, 2017

Bara’r Bywyd Diarhebion 25:1-14

gan Gwyn Davies

Diarhebion 25:1-14 ‘GAIR … YN EI BRYD’ Priodolir y diarhebion ym mhenodau 25–29 i Solomon, er mai gweision y Brenin Heseceia a fu’n eu casglu a’u trefnu (1). Nid ydynt mor gwta â’r rheini yn yr adran o bennod 10 ymlaen, ac nid yw’r cyferbynnu rhwng da a drwg o fewn yr un ddihareb mor…

Darllen ymlaen
15 Mai, 2017

Bara’r Bywyd Diarhebion 24:23-34

gan Gwyn Davies

Diarhebion 24:23-34 ‘SYLWAIS A DYSGU GWERS’ Dyma adran fach ychwanegol sy’n cynnwys rhagor o ‘eiriau’r doethion’ (23). Rydym wedi dod ar draws nifer o’r gwersi eisoes, ond mae’r ffaith iddynt gael eu hailadrodd yma’n tanlinellu eu pwysigrwydd i bawb ohonom. Derbyn wyneb Mae adnod 23 yn seinio rhybudd clir: ‘Nid yw’n iawn dangos ffafr mewn…

Darllen ymlaen
15 Mai, 2017

Bara’r Bywyd Diarhebion 24:1-22

gan Gwyn Davies

Diarhebion 24:1-22 ‘Y MAE’R DOETH YN FWY GRYMUS NA’R CRYF’ Pwysigrwydd persbectif cywir yw prif ergyd yr adnodau hyn. Yn lle sylwi ar bethau fel yr ymddangosant ar yr wyneb, bydd gweld popeth yng ngoleuni Gair Duw yn ein cadw rhag llu o ofidiau di-sail a’n hatal rhag gwneud pob math o gamgymeriadau. Drygioni Temtasiwn…

Darllen ymlaen
15 Mai, 2017

Bara’r Bywyd Diarhebion 23:19-35

gan Gwyn Davies

Diarhebion 23:19-35 ‘PRYN WIRIONEDD, A PHAID Â’I WERTHU’ Rhagoriaethau ‘Bydd ddoeth,’ medd adnod 19, a cheir yn y darn hwn gipolwg ar y rhagoriaethau sydd ynghlwm wrth wir ddoethineb. Yn gyntaf, mae doethineb yn gysylltiedig â gwirionedd, cyfarwyddyd (neu addysg), a deall (23), pob un ohonynt yn werthfawr ar gyfer byw gerbron Duw a phobl…

Darllen ymlaen