Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Categori:

Erthyglau

27 Tach, 2018

Meddwl R M Jones

gan Eleri Glanfield

Gwn fod ‘Bobi Jones’, ‘Dr Bobi’ neu’n syml, ‘Bobi’ yn enw cyfarwydd ac annwyl i nifer o ddarllenwyr y Cylchgrawn Efengylaidd. Ond tybed faint ohonoch sy’n adnabod R. M. Jones, sef yr enw a ddefnyddiodd y diweddar Athro Emeritws Robert Maynard Jones wrth gyhoeddi cyfrolau academaidd? Dylid pwysleisio o’r cychwyn nad talu teyrnged i gyfraniad…

Darllen ymlaen
27 Tach, 2018

Y Bywyd Cyflawn

gan Gwynn Williams

‘Ni ddaw’r lleidr ond i ladrata, ac i ladd ac i ddinistrio. Yr wyf fi wedi dod er mwyn i ddynion gael bywyd, a’i gael yn ei holl gyflawnder.’ (Ioan 10:10) Yn y ddegfed bennod o Efengyl Ioan mae Iesu Grist yn defnyddio darluniau i ddisgrifio natur ei weinidogaeth. Mae dau ohonynt yn dechrau gyda’r…

Darllen ymlaen
27 Tach, 2018

Ymddiriedaeth

gan Steffan Job

Pwy ddychmygai, ychydig flynyddoedd yn ôl, y byddai grwpiau byd fflat yn cael cymaint o sylw, pleidiau gwleidyddol eithafol yn cael cymaint o bleidleisiau, a phobl yn rhoi cymaint o bwysau ar yr hyn y mae’r selebs yn ei ddweud. Mae’n amlwg fod ymddiriedaeth mewn awdurdod yn brin yn ein dyddiau ni. Efallai nad yw’r…

Darllen ymlaen
27 Tach, 2018

Grym a nerth y Gair

gan Carwyn Graves

Mae Duw yn gweithio ar draws y byd trwy gyfieithu’r Beibl Ewyllys Duw yw bod pobl o bob cenedl, iaith a llwyth yn ei addoli. Ond heb y Beibl yn eu hieithoedd eu hunain, ni all Cristnogion dyfu yn y ffydd na’i rhannu yn effeithiol ag eraill. Gellir darllen hanes yr Eglwys fel hanes cyfieithu’r…

Darllen ymlaen
27 Tach, 2018

Dod i adnabod Nathan Munday

gan Nathan Munday

Dwed ychydig bach am dy gefndir. Ces i fagwraeth hyfryd yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin a chael f’addysg yn Ysgol Gyfun Maesyryrfa . Fe ddes i yn Gristion pan oeddwn i’n saith mlwydd oed. Roeddwn wedi brifo mam rywsut a dwi’n cofio gweddïo am faddeuant yn f’ystafell y noson honno. 17 Ebrill 2000 oedd y…

Darllen ymlaen
27 Tach, 2018

Pobl y Beibl – Ioan

gan Peter Davies

Cariad yw un o nerthoedd mwyaf y greadigaeth. Mae’n ddigon cryf i’n hysgogi i gyflawni campau mawrion. O gael ein caru rydym yn barotach i garu eraill yn eu tro. Cofnodwyd rhai o’r geiriau mwyaf am natur cariad Duw gan Ioan – apostol cariad. Profodd ei hun y cariad hwn yn bersonol. Pwysleisia’r cariad hwn…

Darllen ymlaen
27 Tach, 2018

Dyfarnu’n Deg?

gan Meirion Thomas

Yn ddiweddar cafwyd erthygl ar wefan BBC Cymru gan un o ddyfarnwyr mwyaf poblogaidd a medrus yr Undeb Rygbi. Mae parch byd-eang i Nigel Owens fel un o ddyfarnwyr mwya’ dawnus, meistrolgar, teg a phoblogaidd y gamp. Mae ei bersonoliaeth gynnes, ei hiwmor a’i ffraethineb, wedi ennill lle teilwng iddo yn rhengoedd ‘selebs’ y byd…

Darllen ymlaen
27 Tach, 2018

gan Amanda Griffiths

Beth yw dy swydd di ar hyn o bryd? Mae gen i ddwy swydd ar hyn o bryd: rwy’n diwtor cysylltiol i Adran Cymraeg i Oedolion, Prifysgol Caerdydd a hefyd rwy’n Weithwraig Gwragedd yn Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd. Mi fyddaf yn gorffen y swyddi hyn gyda hyn gan fy mod newydd dderbyn swydd llawn amser…

Darllen ymlaen
27 Tach, 2018

Rhywun ar Stryd y Frenhines

gan Nathan Munday

Ar ryw brynhawngwaith teg o haf hirfelyn tesog, cymerais hynt i ben un o strydoedd Cymru, a chyda mi fy mhapur newydd, a’m llygaid, er mwyn syllu ar bopeth a phob un. Clymais fy meic wrth ymyl Castle Arcade, a dechrau cerdded tuag at gerflun Aneurin Bevan. Yn ei gysgod, safai’r Tystion Jehofa – dillad…

Darllen ymlaen
27 Maw, 2018

Heresi’r Pietist

gan Bobi Jones

Bobi Jones, Crist a Chenedlaetholdeb (Pen-y-bont ar Ogwr: Gwasg Efengylaidd Cymru, 1994), pennod 3 Fe garwn grwydro oddi ar briffordd yr ymdriniaeth i gyffwrdd ag un gwrthwynebiad a heresi a geir ymhlith rhai y mae eu sêl efengylaidd ar faterion eraill yn uniongred ac yn ffyddlon. Eto, nid crwydro y byddwn mewn gwirionedd, oherwydd y…

Darllen ymlaen