Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:
Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.
Polisi preifatrwyddAr dechrau’r ganrif ddiwethaf ym Merthyr Tudful, roedd tua 21 o gapeli Cymraeg Annibynnol, tua 15 o gapeli Cymraeg Methodistaidd a thua 19 o gapeli Cymraeg yn perthyn i’r Bedyddwyr. Yng Ngorffennaf 2016 caewyd capel Cymraeg olaf Merthyr – Salem Heolgerrig. Yn Ionawr 2018 cynhaliwyd oedfa Gymraeg yng Nghapel Bedyddwyr Saesneg Park am dri o’r…
Darllen ymlaenMae’n anodd siarad yn garedig â pherson sydd wedi eich siomi dro ar ôl tro. Mae’n haws ymateb yn chwyrn neu o leiaf gwyno am y peth y tu ôl i gefn y person. Gall pobl wneud i ni deimlo’n rhwystredig; mae ein geiriau’n adlewyrchu’r rhwystredigaeth a’r gwrthdaro sy’n deillio o’r ffaith ein bod yn…
Darllen ymlaen‘Cofia dy Greawdwr yn nyddiau dy ieuenctid’ yw anogaeth a gwahoddiad awdur Llyfr y Pregethwr (12:1). Ond mae hyn yn anodd yn yr oes sydd ohoni oes sy’n apathetig tuag at Grist neu’n gwadu bodolaeth Duw, oes sy’n anwybyddu gwirioneddau absoliwt ac sy’n dilyn emosiwn neu deimlad. Oes sy’n ysbrydol ond heb fod yn grefyddol,…
Darllen ymlaenRwy’n ei hystyried yn anrhydedd arbennig i geisio talu teyrnged i’r Parchedig Cecil Jenkins gan fod ein hadnabyddiaeth yn ymestyn yn ôl dros 50 mlynedd. Gallaf dystio iddo fod yn gyfaill cywir a charedig. Brodor o bentref Pump-hewl oedd Cecil ac fe’i ganed ar 1 Mehefin 1929 yn fab hynaf i Edwin a Sarah Jane…
Darllen ymlaenAr ôl treulio dwy flynedd yn teithio’r moroedd ar long OM Logos Hope, mae Dyfan Graves wedi dychwelyd adref i Gaerdydd. Yn rhifynnau’r Cylchgrawn cawn ychydig o’i hanes ym mhorthladdoedd y byd, dyma’r trydydd a’r olaf. Aberth Byw Ambell waith rydych chi’n cwrdd â phobl sydd wir yn cael effaith fawr arnoch chi, pobl sy’n…
Darllen ymlaenCefndir Yn 2018 roeddwn i newydd orfod gadael y brifysgol yn Llundain gan fy mod wedi cael diagnosis iselder. Dechreuais weddïo am arweiniad gan Dduw ynglŷn â beth i’w wneud nesaf. Arweiniodd Duw fi i geisio am swydd hefo elusen Trobwynt. Dechreuais weithio i Trobwynt ym Medi 2018. Roedd y swydd yn un hollol newydd,…
Darllen ymlaenDyna fonllef tyrfa’r Eisteddfod yn diasbedain trwy y pafiliwn yn ateb – unwaith, dwy waith, teirgwaith – HEDDWCH. Ond er cadarned yr ateb ni roddwn fawr o sail iddo, oherwydd wedi’r cyfan, tyrfa sy’n ateb. Y mae ‘llef ddistaw fain’ yr efengyl yn gofyn yr un cwestiwn, nid mor groch ond yr un mor groyw….
Darllen ymlaenYn ystod yr Ymgyrch Efengylaidd a gynhaliwyd yn y Bala, adeg y Pasg eleni, clywyd yr ifanc yn gofyn am lenyddiaeth iach a syml, i’w cynorthwyo yn y Ffydd Gristnogol, a hefyd i’w rhoi yn nwylo eu cyd-ieuenctid. Bu’r angen am hyn yn amlwg i rai ers blynyddoedd, a theimlwyd hiraeth yn eu calon am…
Darllen ymlaenEisteddfod Dolgellau 1949 (Adroddiad o’r Cylchgrawn Efengylaidd Medi/Hydref 1949) Treuliodd nifer o ddarllenwyr ifainc Y Cylchgrawn wythnos hapus a bendithiol iawn yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Am y tro cyntaf erioed ymddangosodd pabell Y Cylchgrawn Efengylaidd ymhlith y llu pebyll bychain a wersylla’n swil bob blwyddyn ar Faes yr Eisteddfod. Cafwyd cwmnïaeth ardderchog – ar…
Darllen ymlaenAc yr wyf fi’n dweud wrthych: gofynnwch, ac fe roddir i chwi; ceisiwch, ac fe gewch; curwch, ac fe agorir i chwi. Oherwydd y mae pawb sy’n gofyn yn derbyn, a’r sawl sy’n ceisio yn cael, ac i’r un sy’n curo agorir y drws. Os bydd mab un ohonoch yn gofyn i’w dad am bysgodyn,…
Darllen ymlaen