Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:
Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.
Polisi preifatrwyddRoedden nhw’n sefyll yno ar fynydd yr Olewydd a dyrnaid o bobl gerllaw yn syllu tua’r nef, a Iesu yn esgyn. ‘Wŷr Galilea’, meddent, ‘pam yr ydych yn sefyll yn edrych tua’r nef? Bydd yr Iesu hwn, sydd wedi ei gymryd i fyny oddi wrthych i’r nef, yn dod yn yr un modd ag y…
Darllen ymlaenBraint fawr yw cael troi at y Beibl a’i ddarllen yn ein hiaith ein hunain. Braint hefyd yw gwybod mai dyma’r Beibl a fwriadodd Duw ar ein cyfer, sef y Beibl sy’n cynnwys tri deg a naw o lyfrau yn yr Hen Destament, a dau ddeg a saith yn y Testament Newydd. Mae’n arwydd o…
Darllen ymlaenCefais dröedigaeth yn y coleg ym Mangor. Y diwrnod ar ôl i ffrind a minnau gyffesu ein ffydd yn yr Arglwydd Iesu, fe ofynnodd cyd-fyfyriwr inni, Elwyn Davies, a oeddem wedi darllen y Beibl a thystiolaethu wrth rywun. Awgrymodd y byddai’n dda inni ddweud wrth ein rhieni. Dywedodd fy ffrind na allai hi byth ddweud…
Darllen ymlaenCyn cael plant, fy argraff oedd mai peth hawdd, didrafferth fyddai gweddïo gyda’r teulu, ond ar ôl cael tri o blant bywiog, rwy’n sylweddoli bod eu cael i eistedd yn dawel ac yn llonydd yn her ynddi ei hun, heb sôn am eu cael i werthfawrogi mawredd yr hyn a wnawn wrth weddïo a’r un…
Darllen ymlaenEffeithiwyd ar fy mywyd gweddi yn fawr gan hen weinidog a ddywedodd ei fod yn gweddïo Gweddi’r Arglwydd yn ddyddiol. Nododd fod gweddi wedi dod yn fwy ystyrlon, ac yn fwy heriol, wrth iddo ddeall y geiriau yn well a gorfod eu cymhwyso yn bersonol. Yn dilyn hyn, daeth Gweddi’r Arglwydd yn default setting i’m…
Darllen ymlaenO bryd i’w gilydd yn yr ysgol, bydd athro neu athrawes yn ysgrifennu ‘dalier ati’ ar adroddiad gwaith. Dyna yn gryno yw ystyr y gair Groeg hwpomone, dyfalbarhad, neu’r gallu i ymddál. Cysylltir hwpomone yn aml iawn yn y Testament Newydd â threialon neu anawsterau. Dyma’r apostol Ioan yn llyfr y Datguddiad yn ein hatgoffa…
Darllen ymlaen‘Pam gweddïo?’ Mae’n gwestiwn a ofynnir am bob math o resymau. Mae rhai’n ei ofyn am na welant unrhyw synnwyr mewn gweddi; eraill am eu bod yn credu nad oes ateb i weddi; eraill am eu bod yn ystyried gweddi’n ddefod grefyddol sych; ac eraill am iddynt gael trafferth i weddïo, ac yn arbennig i…
Darllen ymlaenMae gweddi yn rhodd lawen ac adfywiol i’r enaid ond hefyd yn ddisgyblaeth. Mae’r llawenydd hwnnw o bosibl yn felysach wrth weddïo mewn cwmnïaeth a baich y ddisgyblaeth yn ysgafnhau drwy bartneriaeth. Mae’n llesol felly i weddïo gyda’n gilydd, a hynny weithiau mewn parau neu drioedd. Dewiswch yn ddoeth – bydd eich grŵp yn fwy…
Darllen ymlaenO bryd i’w gilydd rydym yn teimlo nad oes digon o oriau yn y dydd i gyflawni pob peth. Yn ogystal, mae adegau pan fo pwysau gwaith yn anodd i’w ddioddef a’r straen yn ein profi i’r eithaf. Ar ben hyn i gyd, mae cymaint i dynnu ein sylw a llenwi bob munud o’r dydd,…
Darllen ymlaenBeth allwn ni ei ddysgu gan y Tadau Methodistaidd? Un ffaith hanesyddol fawr y Diwygiad Methodistaidd Mae llawer o ffeithiau hanesyddol rhyfeddol yn gysylltiedig â hanesion y Tadau Methodistaidd, gwŷr fel Howell Harris (1714-73), Daniel Rowland (1713-90), Thomas Charles (1755-1814), John Elias (1774-1841) a llawer rhagor, ond nid oes un, mi gredaf, i’w chymharu â’r…
Darllen ymlaen