Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:
Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.
Polisi preifatrwyddEmyn gan John Emyr Arglwydd bywyd rho dy anadl Nawr yn hael i’r meirwon hyn; Esgyrn sychion bro marwolaeth Cnawd a gewyn arnynt tyn: Gwynt yr Ysbryd Yw ein gobaith am gael byw. Arglwydd bywyd rho dy anadl I ysgyfaint sych a chrin; Gwna dy ddirgel waith o’r newydd, Anfon eto nefol rin –…
Darllen ymlaenYr Ymgnawdoliad Dafydd M Job Mae heno uwch y mynydd Yn y nen un seren sydd Â’i golau yn datgelu Dyfodiad ein Ceidwad cu – Dyfod Duw i adfyd dyn A’i eni yn fachgennyn! Arglwydd, ai rhwydd fu rhoddi Aer y Nef i’n daear ni? I guddio’r Gair Tragwyddol Yn y gwair mewn egwan…
Darllen ymlaenIesu da, ein gweddi clyw, Anfonedig mynwes Duw, Teg dywalltydd doniau lu, Tyred eto oddi fry. Gwisgo wnest ein natur dlawd, I ni gael dy alw’n Frawd, Gwared hen drueiniaid llawr Yn dy gôl, Waredwr mawr. Symud yr amheuon trwm, Gwna yn rhydd ysbrydoedd llwm, Addawedig oesoedd hir, Amen bydd i’r henair gwir. Crwydro’n ddall…
Darllen ymlaenTybed a ydych yn adnabod rhywun a oedd unwaith yn gynnes yn y ffydd, ond sydd bellach wedi cefnu ar ei broffes? A ydych yn y cyflwr hwnnw eich hun? Gadewch i mi roi gair o brofiad a fydd, gobeithio, yn cynnig cysur a gobaith. Rydw i wedi gweld yn fy mywyd fy hun wirionedd…
Darllen ymlaenMawrha yr Arglwydd, f’enaid cân A llawenha’n wastadol; Fy Nuw, fy iachawdwriaeth rad; Fy Ngheidwad yn dragwyddol. Edrych a wnaeth ar ddinod wedd Fy ngwaeledd, heb un dirmyg; Holl genedlaethau’r byd yn grwn A’m geilw’n wynfydedig. Cans sanct, galluog yw Duw’r ne’, Efe a wnaeth im fawredd; A’r rhai a’i hofnant o lwyr-fryd Yn hyfryd…
Darllen ymlaeni Ania Lili, wedi gweld casgliad Prifysgol Harvard o blanhigion gwydr Carwn ddangos iti’r breuder hwn: harddwch creu o ffwrnais awen dyn â dwylo’i grefft; dawn efelychu roddodd fod i batrwm pob un petal prin, tryloywder lliw, gosodiad dail, cyn clymu gwreiddiau blêr y cannoedd rywogaethau. Carwn ddangos iti’r harddwch hwn: trefn tymhorau’n saff am…
Darllen ymlaenDwg fi i Fynydd yr Olewydd Lle mae ‘Ngheidwad yn yr ardd; Chwŷs fel dafnau gwaed yn disgyn Hyd ei ruddiau hardd. Beth yw’r ymdrech sy’n ei enaid? Pam bod hwn sy’n Frenin Nef  gofidiau dwys hyd angau Yn ei galon Ef? Cwpan sydd o’i flaen i’w yfed – Cwpan chwerw angau loes; Tâl…
Darllen ymlaenDiolch am yr addewidion, Addewidion sydd mor fawr, Addewidion mawr a gwerthfawr, Rho eu cymorth inni’n awr Gwna hwy’n filwyr Ar y blaen ar faes y gad. Parod ydym ni i grwydro, Gweld y borfa fras gerllaw, Diolch am yr addewidion, Sy’n ein gwylio ar bob llaw, Fel bugeiliaid Yn gofalu am eu praidd. Ofnau…
Darllen ymlaen