Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:
Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.
Polisi preifatrwyddCariad yw un o nerthoedd mwyaf y greadigaeth. Mae’n ddigon cryf i’n hysgogi i gyflawni campau mawrion. O gael ein caru rydym yn barotach i garu eraill yn eu tro. Cofnodwyd rhai o’r geiriau mwyaf am natur cariad Duw gan Ioan – apostol cariad. Profodd ei hun y cariad hwn yn bersonol. Pwysleisia’r cariad hwn…
Darllen ymlaenGeiriau cyntaf Iesu wrth Pedr oedd ar iddo ei ddilyn ef (Math. 4:19). Ei eiriau olaf iddo oedd ar iddo ei ddilyn ef (Ioan 21:22). Pob cam o’r ffordd ni ffaelodd Pedr â dilyn yr Iesu, er iddo gwympo sawl tro. Daeth Pedr yn ddyn newydd pan ddaeth Iesu i’w fywyd. Newidiwyd cwrs ei fywyd…
Darllen ymlaenMae bod yn rhiant yn fraint a chyfrifoldeb. Braint a chyfrifoldeb unigryw Mair oedd bod yn fam i Fab Duw. Hi oedd yr unig berson a fu’n bresennol gyda’r Iesu o’i eni hyd ei farw. Newidiwyd bywyd Mair yn llwyr pan ymddangosodd yr angel Gabriel iddi. Roedd hi newydd ddyweddïo â Joseff pan ddywedodd yr…
Darllen ymlaenIOAN FEDYDDIWR Dyn unigryw oedd Ioan Fedyddiwr. Bwytâi fwyd rhyfedd a gwisgai ddillad hynod. Tyrrai pobl ato i’r anialwch i wrando ar ei neges chwyldroadaol. Egyr y Testament Newydd gydag Ioan Fedyddiwr yn galw ar y bobl i edifarhau am eu pechodau (Mathew 3:2). Uniaethodd ei hunan â’r llais oedd yn galw am baratoi ffordd…
Darllen ymlaenSaif yr apostol Paul fel cawr yn hanes cynnar yr Eglwys Fore. Nid oes un dyn arall a luniodd siâp Cristnogaeth fel y dyn hwn. Hyd yn oed cyn dod yn Gristion arweiniodd ei erledigaeth wyllt o Gristnogion at ledaeniad y Ffydd. Addysgwyd Paul wrth draed y Pharisead Gamaliel. Roedd yn hyddysg yn yr Ysgrythurau…
Darllen ymlaenMae ymroddiad llwyr Eleias i Dduw yn ein herio’n fawr. Anfonwyd ef nid i gysuro ond i geryddu. Ac fe ddioddefodd unigrwydd mawr oherwydd hyn. Cyflawnodd Duw sawl gwyrth trwy weinidogaeth Eleias.Y mwyaf dramatig o bosibl oedd honno ar ben mynydd Carmel. Ond yn dilyn y wyrth fawr hon gwnaeth Jesebel ddial arno trwy fygwth…
Darllen ymlaenWrth feddwl am Dafydd y darlun a gawn ohono’n bennaf yw am un oedd yn fugail, cerddor a brenin. Ond yn duo’r darlun hwn mae un oedd hefyd yn gelwyddwr, godinebwr a llofruddiwr. Nid yw’r Beibl yn cuddio diffygion Dafydd. Eto fe’i cofir yn un oedd wrth fodd calon Duw (1 Samuel 13:14 cf. Actau…
Darllen ymlaen