Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:
Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.
Polisi preifatrwyddY Tom Jones arall Gwyn Davies Nage, nid Tom Jones y canwr – neu Thomas Woodward, a rhoi ei enw iawn iddo. Yn hytrach, mae 2020 yn gyfle inni gofio daucanmlwyddiant marw Thomas Jones arall – ar lawer ystyr, y Tom Jones pwysicaf oll yn ein hanes fel cenedl. Sôn yr wyf am Thomas…
Darllen ymlaenCamau Cristnogaeth Gwyn Davies Bwriad y gyfres hon yw bwrw golwg cyffredinol ar hanes yr Eglwys Gristnogol. Pwy oedd pwy? Beth ddigwyddodd? Beth yw’r gwersi i ni heddiw? Yng ngeiriau Eseia 51:1: ‘Edrychwch ar y graig y’ch naddwyd ohoni.’ Y CAMAU CYNTAF (O.C. 100–500) I lawer ohonom, mae’n siŵr fod hanes yr Eglwys Fore yn…
Darllen ymlaenBeth yw Pwynt Hanes yr Eglwys? Gwyn Davies ‘History,’ meddai Henry Ford, ‘is more or less bunk!’ A byddai llawer un yn cytuno: Peth diwerth yw byw yn y gorffennol. Rhaid byw yn y presennol a wynebu’r dyfodol. Mae hanes yn ‘boring’. Cawsom ddigon arno yn yr ysgol – dyddiadau di-ben-draw, digwyddiadau hollol amherthnasol i…
Darllen ymlaen‘Yn Henry Rees y cyrhaeddodd y pulpud y perffeithrwydd uchaf a gyrhaeddwyd erioed yn ein gwlad, ac nid ydym ni yn gwybod am neb, mewn unrhyw wlad nac oes, ag y byddem yn barod i gydnabod ei bregethau… yn rhagori ar yr eiddo ef.’ Owen Thomas, prif hanesydd y Methodistiaid Calfinaidd yn y bedwaredd ganrif…
Darllen ymlaenRoedd ganddo awydd ysol i fynd â’r efengyl i Corea. Wedi sicrhau lle yn gyfieithydd ar long Americanaidd, cychwynnodd am Pyongyang, y brifddinas. Wrth i’r llong hwylio ar hyd afon Taedong, dosbarthodd Feiblau a thractau Tsieineeg i’r bobl ar y glannau. Ond cododd anghydfod rhwng criw’r llong a’r Coreaid. Ger Pyongyang herwgipiwyd pennaeth yr heddlu…
Darllen ymlaenYn gynnar ym mis Mehefin 1967 – union hanner can mlynedd yn ôl – daeth pedwar gŵr at ei gilydd yn Aberystwyth i weddïo am arweiniad. Annibynnwr o wyddonydd oedd Ieuan Jones, ond teimlai’n fwyfwy anfodlon nad oedd Gair Duw yn cael ei bregethu yn y capel a fynychai. Athro ysgol ac aelod gyda’r Hen…
Darllen ymlaenTaith ynglŷn â hanes Cristnogaeth ym mro Eisteddfod Ynys Môn, Bodedern Bodedern Cychwynnwn ein taith ym Modedern, o flaen Soar, capel y Wesleaid, Stryd Wesley (LL65 3TD). Yma dechreuodd y ‘sblit’ cyntaf yn hanes Wesleaid Cymru. Ar y pryd nid oedd hawl gan bregethwyr lleol yr enwad bregethu tu allan i’w cylchdaith eu hunain. Teimlai…
Darllen ymlaenDiarhebion 31:10-31 Y WRAIG FEDRUS Daw’r llyfr i ben drwy ganu molawd hyfryd i’r wraig fedrus a’i dylanwad llesol ar ei theulu a’i chymuned. Nid yw’r Beibl yn unman yn difrïo merched; yma caiff gwraig barch a chlod hollol deilwng. Diwydrwydd Caiff diwydrwydd diflino’r wraig fedrus sylw arbennig yn adnodau 13-19. Nid yw’n ofni gwaith…
Darllen ymlaenDiarhebion 31:1-9 CYNGOR I FRENIN Nid oes gennym fwy o wybodaeth am Lemuel nag am Agur (30:1), ar wahân i’r gosodiad mai brenin Massa oedd Lemuel. Diddorol nodi hefyd mai ei fam a ddysgodd y cyngor a ganlyn iddo (1). Peryglon Mae Lemuel yn enwi dau berygl difrifol y dylai pob brenin fod yn ymwybodol…
Darllen ymlaenDiarhebion 30:21-33 RHIFOLION A RHYBUDD Yn adnodau 10-20 dilynir cyfres o rybuddion gan sylwadau sy’n seiliedig ar rifolion; yn awr cyflwynir rhagor o rifolion gyda rhybudd ar y diwedd. Rhifolion Yn gyntaf, rhoddir sylw i bedwar o bethau sy’n peri gofid (21-23). Diddorol nodi fod dau ohonynt yn ymwneud â newidiadau cymdeithasol chwyldroadol, gyda ‘gwas’…
Darllen ymlaen