Mae’r gwyliau ysgol bron yma! Yn ein dyddiau ni mae gwyliau yn bwysig ac yn beth i’w drysori. Mae’n gyfle i gilio oddi wrth brysurdeb bywyd a gwaith, gan ymlacio gyda theulu neu ffrindiau mewn awyrgylch gwahanol.
Wn i ddim sut y byddwch chi’n treulio’r haf, ond beth am ddod i’r gynhadledd yn Aberystwyth fel rhan o’ch gwyliau eleni?
Dyma 5 rheswm dros ddod i’r gynhadledd eleni!
1 – Bendith o dan y gair. Prif Anerchiadau – ‘Yr Eglwys: Cynllun yr Arglwydd’.
Fel Cristnogion rydym yn gwybod pa mor fendithiol yw cael eistedd o dan bregethu tra bo Duw yn delio a ni. Yn aml mae’n felys, weithiau’n ddwys, ond mae bob amser yn fendith. Cysylltodd Emyr James gyda mi’r wythnos hon i ddweud mai thema’r prif anerchiadau eleni fydd ‘ Yr Eglwys: Cynllun Duw’. Rhaid cyfaddef fy mod yn edrych ymlaen yn ddisgwylgar at glywed yr hyn fydd gan Emyr i’w ddweud.
2 – Cymdeithas gynnes.
Mae’r gynhadledd yn gyfle i gyfarfod â Christnogion eraill o bob rhan o Gymru (a thu hwnt). Yn ogystal â chyd addoli gydag eraill, mae digon o gyfle i rannu a chwrdd â ffrindiau hen a newydd. Eleni mae mwy o gyfarfodydd cymdeithasol wedi eu trefnu er mwyn gwneud y mwyaf o’r amser gyda’n gilydd.
3 – Cyfle i ymlacio mewn awyrgylch saff a bendithiol
Er bod y rhaglen yn gynhwysfawr, mae digon o gyfle i ymlacio a meddwl dros yr anerchiadau, yn un o ardaloedd prydfertha’r byd. Pwy all beidio edrych ymlaen at gael hufen ia ar y prom neu goffi a bwyd blasus ym mwyty TamedDa?
4 – Cyfle i adnewyddu ac ymgysegru
Wn i ddim sut yr ydych chi’n teimlo, mae bywyd mor brysur erbyn hyn, ac mae’n hawdd i ni golli golwg ar y pethau sy’n bwysig mewn bywyd. Mae’r gynhadledd yn gyfle i dawelu, i adnewyddu ac i ymgysegru ein hunain eto i waith y deyrnas.
5 – Anogaeth
Un o’r pethau hyfryd am ddod i’r gynhadledd yw’r anogaeth mae rhywun yn ei dderbyn wrth weld a chlywed gan eraill. Rhaid hefyd peidio anghofio am yr anogaeth yr ydym ni yn medru bod i eraill hefyd. Beth am ymuno gydag eraill yn un teulu mawr dros wythnos y gynhadledd?
Os ydych chi’n dod ar eich pen eich hunan, yn deulu neu’n rhan o grŵp, a beth bynnag yw eich cefndir enwadol neu eglwysig, bydd croeso cynnes i chi yn Aberystwyth eleni!
Manylion 2017 yn fras…
- Dydd Llun i Ddydd Gwener,
- 21-25 Awst, 2017
- Canolfan Gynadledda MedRus, Aberystwyth
- Prif Siaradwr: Emyr James
- Siaradwyr eraill – Geraint Morse, Arfon Jones, John Derek Rees, Gwynn Williams a Gwyon Jenkins
- Cyfieithu – Mae’r gynhadledd o fewn cyrraedd i nifer eang o Gristnogion gan fod cyfieithu ar y pryd ar gael ym mhob un o’r prif gyfarfodydd.
Er bod pob dydd yn wahanol, mae’r gynhadledd yn troi o gwmpas y prif sesiynau a chyfarfodydd. Dyma felly fraslun o’r hyn fydd yn digwydd bob dydd:
Trefn y dydd
9.30
- Cyfarfod Gweddi – cyfle i ddod at ein gilydd i addoli a galw ar Dduw
- Llwybrau – cyfarfod i bobl ifanc 10-13 oed i edrych ar y Beibl gyda’n gilydd
- Gwersyll yr Ifanc – cyfarfod i bobl ifanc 14-21 oed
11.00
- Prif Gyfarfod – cyfle i bawb ddod at ei gilydd i addoli a gwrando ar air Duw yn cael ei esbonio
- Clwb Plant – darpariaeth i blant 3-9 oed
12.30
- Cinio – beth am ymuno gydag eraill ym mwyta TaMed Da?
14.00
- Gweithgareddau’r Pnawn i fwynhau cwmni’n gilydd (gweler isod)
17.30
- Swper – mae dau gyfle i ymuno gyda’n gilydd yn ystod yr wythnos
19.30
- Cyfarfod yr Hwyr – cyfle i addoli, dysgu a rhannu gyda’n gilydd
21.30
- Gweithgareddau Hwyr – rhywbeth i ymlacio a dod i ‘nabod eraill (gweler isod)
Siaradwyr
Edrychwn ymlaen at groesawu nifer o siaradwyr fydd yn dod â gair Duw atom eleni. Gweddïwch dros bob un ohonynt fel eu bod yn cael gras a chymorth Duw wrth baratoi. Dyma restr o’r siaradwyr sydd wedi eu cadarnhau hyd yn hyn:
- Emyr James (Caerdydd) – Prif gyfarfodydd y bore
- Gwyon Jenkins (Llanelli) – Cyfarfodydd gweddi
- Geraint Morse (Sir Benfro) – Nos Lun
- Arfon Jones (Caerdydd) – Nos Fawrth
- John Derek Rees (Abertawe) – Nos Iau
- Gwynn Williams (Caerdydd) – Nos Wener
Ymlacio a Chymdeithasu
- Fydd ddim rhaid i neb fod ar ben eu hunain yn Aberystwyth eleni, gan fod digon o weithgareddau wedi eu trefnu i bawb.
- Pnawn Mawrth- Trip ar y trên neu fflash gôr. Cyfle i fynd ar y trên bach i gwm Rheidol neu beth am ymuno â chôr i ddysgu caneuon newydd ar gyfer y cyfarfod nos Fercher?
- Pnawn Mercher- Taith Gerdded yn gorffen gyda ‘Rhost Mochyn’. Taith o gwmpas harddwch yr ardal (addas ar gyfer pawb) yn gorffen gyda chyfle i fwynhau rhost mochyn.
- Pnawn Iau- Trip Hanes (gwybodaeth isod) neu gemau ar y traeth. Cyfle i ddysgu ychydig am hanes Cristnogaeth yng Nghymru neu gyfle i fynd i’r traeth am gemau a hufen iâ.
- Pnawn Gwener – Helfa drysor o gwmpas y dref a sglodion ar y prom. Cyfle i fwynhau ambell i baned a chacen wrth gymryd rhan yn yr helfa drysor blynyddol!
I’r rhai fydd ag egni ar ôl diwrnod llawn, mae cyfle i ymuno gydag eraill mewn awyrgylch fwy hamddenol. Mae’n gyfle i ddod i wneud ffrindiau newydd ac i rannu bendithion y dydd.
- Nos Lun – Arddangosfa Celf. Cyfle i edrych ar waith celf a dysgu sut y mae celf a bod yn greadigol yn rhan o gynllun Duw ar ein cyfer.
- Nos Fawrth – Cerdded ar y prom a choelcerth. Yn ddibynnol ar y tywydd!
- Nos Fercher – Noson Cwis.
- Nos Iau – Noson ‘Meic agored’. Cyfle i ddod a rhannu cerddoriaeth neu farddoniaeth gydag eraill.
- Nos Wener – Bwyd a chlonc. Traddodiad sy’n rhaid ei gadw … lawr i’r dre i nôl bwyd!
Trip Hanes
Bydd y Daith Hanes eleni’n mynd i Landdewibrefi, rhwng Tregaron a Llanbedr Pont Steffan.
Pentref bach gwledig yw hwn, ond mae iddo le amlwg yn hanes Cristnogaeth yng Nghymru. Fel yr awgryma’r enw, roedd ganddo gysylltiad enwog iawn â Dewi Sant yn ôl yn y chweched ganrif. Yma hefyd y casglwyd rhai o lawysgrifau crefyddol pwysicaf Cymru yn yr Oesoedd Canol. Yn nes ymlaen bu Griffith Jones, Llanddowror, yn pregethu yn Llanddewibrefi – gyda chanlyniadau tyngedfennol i wrandawr ifanc o’r enw Daniel Rowland. Ac mae Duw wedi bod ar waith yn yr ardal yn fwy diweddar hefyd . . .
Gobeithir symud ymlaen wedyn i gael paned yn yr Hedyn Mwstard, caffi Cristnogol yn Llanbedr Pont Steffan, a dod yn ôl drwy Aberaeron.
Arweinir y daith gan Gwyn Davies.
Bydd y bws yn cychwyn o’r safle bws gyferbyn â Chaban y Porthorion, Campws Pen-glais, yn brydlon am 1.30 ar brynhawn dydd Iau. Gobeithir cyrraedd yn ôl erbyn tua 5.15.