Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Ymateb MEC i’r firws

Firws Corona – 18/3/2020 diweddariad i’r cyhoedd gan MEC

Fel y gwyddoch yn wyneb y firws COVID-19 rydym yn wynebu sefyllfa heriol sy’n newid yn ddyddiol.
Diolchwn ein bod yn medru ymddiried yn ein Tad cariadus sy’n rheoli pob dim yn ystod y cyfnod ansicr yma. Rydym hefyd yn fwy argyhoeddedig nag erioed mai’r Efengyl yw’r unig ateb i anghenion dyfnaf pobl Cymru.
Credwn ei bod hi’n amser i ddiweddaru ein cefnogwyr, partneriaid a chwsmeriaid am y camau yr ydym yn eu cymryd fel mudiad yn ystod y cyfnod hwn. Ein nod yw gofalu am ein staff a’n gwirfoddolwyr, helpu’r gymdeithas i ddelio gyda’r argyfwng a hybu a chynorthwyo Cristnogion ac eglwysi i estyn allan i bobl gyda’r efengyl.
Wedi llawer o weddi ac ystyriaeth, rydym am rannu’r canlynol:

  • Bydd pob digwyddiad a phwyllgor MEC a oedd i ddigwydd yn y misoedd nesaf (hyd at ganol Mehefin) yn cael eu haildrefnu, eu symud neu eu canslo. Mae manylion llawn i gael ar y wefan a byddwn yn cysylltu gyda phawb sydd wedi eu heffeithio i roi’r manylion ac/neu i drefnu ad-daliad llawn.
  • Bydd Bryn y Groes, ein canolfan gynadledda yn cau nes bydd rhybudd pellach. Eto, byddwn yn cysylltu gyda phob grŵp sydd wedi eu heffeithio gyda mwy o wybodaeth ac i ad-dalu’r blaendal.
  • Bydd ein caffi yn Wrecsam yn cau yn syth, ond bydd ein siopau llyfrau yn parhau ar agor (gyda’r posibiliad o leihau oriau agor).
  • Mae pob aelod o staff a gwirfoddolwr sydd yn rhan o’r categori ‘risg uchel’ wedi cael gwybod y bydd yn rhaid iddynt aros adref a dilyn canllawiau’r llywodraeth er mwyn diogelu eu hunain, y gymdeithas a’r gwasanaeth Iechyd.
  • Bydd pob gweithiwr MEC yn gweithio o adref lle mae hynny yn bosib hyd nes y bydd gwybodaeth bellach, ond byddwn yn parhau i agor ein swyddfeydd er mwyn sicrhau ein bod ar gael i gynnig help i bobl.

Byddwn yn gwneud datganiadau pellach yn fuan ynghylch gweithgareddau’r haf a’r ergyd ariannol i ni fel elusen o ganlyniad i’r penderfyniadau hyn.

Byddwn hefyd yn lansio rhai gweinidogaethau newydd i helpu Cristnogion ac Eglwysi ac i rannu’r efengyl yn fuan iawn. Fel Mudiad rydym am wneud y mwyaf o’r dyddiau yma gan fod cyfle clir i rannu’r newyddion am ein Gwaredwr a Duw sy’n sofran ym mhob sefyllfa.

Fel cam cyntaf, rydym yn mynd i fod yn cyhoeddi defosiwn dyddiol y medrwch ei dderbyn dros e-bost neu ar wefannau cymdeithasol. I dderbyn yr e-bost ewch i’r wefan a rhoi eich manylion ar y dudalen www.mudiad-efengylaidd.org/dyddiol.

Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy’n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol. Ioan 3:16

Newyddion diwethaf

Newyddion nesaf