Mae’r gwyliau wedi cychwyn ac fe fydd y gynhadledd yma cyn i ni droi!
Rydym yn edrych ymlaen yn ddisgwylgar i’n hamser gyda’n gilydd.
Dros y ddwy wythnos nesaf fe fyddwn yn gyrru ebost bob yn ail ddiwrnod yn rhoi gwybodaeth am y gynhadledd… rhyw fath o 10 rheswm dros ddod i’r gynhadledd eleni!
Yn y cyfamser, mae rhai pobl wedi cysylltu i ofyn beth sy’n digwydd gyda rhai agweddau arbennig. Dyma felly ebost yn ceisio ateb rhai o’r cwestiynau yma.
Beth sy’n digwydd nos Fercher?
Cyfarfod ychydig yn wahanol lle y byddwn yn cael y cyfle i edrych ar rai materion yn fwy dwfn. Bydd paned a chacen yn ein disgwyl wrth gyrraedd am 7.30 yna cyfnod gyda’n gilydd yn canu a gweddio. Yna byddwn yn rhannu gyda’r dewis o’r seminarau canlynol:
- Meddwl yn Feiblaidd am Iaith – Carwyn Graves
- Merched Anogaeth – Gwawr Thomas a Gwawr Murphy
- Yn y byd, ond nid o’r byd – Yr Eglwys yn ymateb i her ein cymdeithas – Dafydd Job
- Cyfle neu Golled – Golwg Gristnogol ar y cyfryngau cymdeithasol – Rebecca Gethin
Beth yw sefyllfa gyda llety?
Nid oes llety swyddogol eleni ar gyfer y gynhadledd.
Er hyn, mae nifer o opsiynau gwahanol gan gynnwys:
- 1 – Cysylltu yn uniongyrchol gyda’r Brifysgol i drefnu llety (manylion ar y wefan).
- 2 – Gwestai lleol – Mae criw o’r gynhadledd yn aros mewn gwestai o gwmpas Aberystwyth. Mae dau westai arbennig lle y mae pobl o’r gynhadledd yn aros sef y Marine a Llety Parc.
- 3 – Gwersylla – mae nifer o deuluoedd yn gwersylla ar faes lleol. AM fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda’r swyddfa.
Gwersyll yr Ifanc
Yn anffodus rydym wedi cael trafferth mawr i drefnu llety ar gyfer yr ieuenctid eleni.
Dros y blynyddoedd rydym wedi medru darparu llety a bwyd yn rhad iawn ar lawer capel lleol, sydd wedi bod yn gymorth mawr i nifer.
Er ein bod wedi edrych ar nifer o opsiynau gwahanol, nid ydym yn medru darparu y gwasanaeth hwn eleni.
Byddwn yn parhau i drefnu gweithgareddau llawn i’r ieuenctid, o dan ofal Rhys Havard ac Angharad Jenkins, ond ni fydd llety na bwyd yn cael ei gynnig eleni.
Os bydd rhywun yn cael trafferth i drefnu llety, plis cysylltwch gyda’r swyddfa, ac fe wnawn ein gorau i fod o gymorth.