Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Y Gynhadledd yn Aberystwyth yr haf yma

Os Duw a’i myn, byddwn yn cyfarfod gyda’n gilydd yr haf hwn, yn Y Gynhadledd, i addoli Duw gan wrando ar ei air dros ddau ddiwrnod yn Aberystwyth. Mae hi’n sicr wedi bod yn gyfnod hir ers cynhadledd 2019, a diolchwn am ddarpariaeth y neuadd fawr yng Nghanolfan y Celfyddydau i fedru rhedeg y digwyddiad yn ddiogel.

Canolbwynt y gynhadledd yw’r cyfarfodydd lle y cawn gyfle i addoli a cheisio Duw gyda’n gilydd ac i ddysgu wrth i ni wrando ar y pregethu. Byddwn yn croesawu Derrick Adams i bregethu yn y pedwar prif gyfarfod, a’i destun eleni yw ‘Llawenydd y Cristion’. Bydd hefyd cyfle i’r plant fwynhau ‘Awr i Blant’ yn fyw y tu allan, gyda Lois a Bedwyr.

Gweddïwn y bydd y ddau ddiwrnod yn fendith yng ngwir ystyr y gair; bendith fydd yn parhau drwy gydol y flwyddyn wrth i ni ddychwelyd gartref wedi ein hadnewyddu’n ysbrydol, ein harfogi a’n tanio i ddyfalbarhau yn y bywyd Cristnogol.

Mwy o wybodaeth yma