Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Y Gynhadledd – newyddion diweddaraf

Rydym yn fawr obeithio eich bod yn mwynhau’r Haf ac yn cael seibiant bach – mae’n braf medru bod allan eto yn cymysgu gyda phobl ac yn mynychu digwyddiadau. Roeddem eisiau gyrru ebost sydyn i’ch hatgoffa am y Gynhadledd yr wythnos nesaf ar ddyddiau Mawrth a Mercher.

Mae ambell i un wedi cysylltu gyda’r swyddfa i ofyn, yn sgil y drefn newydd, a oes modd troi i fyny i’r Gynhadledd eleni. Yr etb syml i’r cwestin yw – OES! Oherwydd ein bod yn cynnal y Gynhadledd yn y Neuadd Fawr, a bod yn rhaid dilyn canllawiau diogelwch Cofid-19, bydd angen i bawb archebu/brynu tocyn, ond gellir gwneud hyn ar y diwrnod drwy ddesg docynnau Canolfan y Celfyddydau. Gobeithiwn felly eich gweld yn Aber!

I’r rhai sy’n methu ei gwneud hi, gobeithiwn ffrydio’r cyfarfodydd yn fyw ar ein sianel YouTube.

Yn olaf, plis gweddiwch dros y Gynhadledd a phregethu’r Gair yn arbennig. Roedd yn hyfryd cael bod yn un o’r gwersylloedd ddoe a gweld y syched yn y bobl ifanc am gael bod gyda’u gilydd ac am gael clywed Gair Duw. Hyderaf bod nifer ohonom yn teimlo’r un peth am y Gynhadledd – ac felly plis gweddiwch y bydd Duw yn agos.

Pob bendith.

Steffan Job

Prif Gyfarfodydd

Llawenydd fydd pwnc y gynhadledd eleni. Mae llawenydd yn help i ufudd-dod ac yn dystiolaeth i’r byd. Ond hefyd mae’n rhan bwysig o’n haddoliad gan ein bod yn gogoneddu Duw wrth lawenhau ynddo.

  • Dydd Mawrth, 11yb – Anerchiad 1: Lle llawenydd a thristwch yn y bywyd Cristnogol.
  • Dydd Mawrth, 4yp – Anerchiad 2: Llawenydd fel ffrwyth yr Ysbryd Glân.
  • Dydd Mercher, 11yb – Anerchiad 3: Llawenydd Iesu Grist ei hun a’i ddymuniad i ni brofi llawenydd tebyg iddo Ef.
  • Dydd Mercher, 4yp – Anerchiad 4: Llawenydd Iesu Grist ei hun a’i ddymuniad i ni brofi llawenydd tebyg iddo Ef.

Dywed Derrick, ‘Fy ngobaith yw y bydd Duw yng nghanol profiadau hapus a thrist ein bywydau yn agor ein llygaid i ddeall, rhyfeddu a dechrau profi’r llawenydd dwfn a gynhaliodd Iesu ei hun tra roedd ar y ddaear’.

Awr i Blant!

Dydd Mawrth a Mercher, 2:00yp. Ymunwch gyda Lois a Bedwyr i ganu, cymryd rhan mewn gweithgareddau a gemau, ac i ddysgu mwy am neges y Beibl. Cyfarfod y tu allan.

Ffrydio

Byddwn yn ffrydio’r pedwar prif gyfarfod yn fyw ar ein sianel YouTube.