Ar Ddydd Sul 30 o Fedi, wedi brwydr hir gyda chancr, aeth y Parch. Gwynn Williams adref at ei Arglwydd. Cafodd gweinidogaeth bregethu Gwynn ei fendithio yn fawr ac mae ei gyfraniad i waith yr efengyl yng Nghymru wedi bod yn sylweddol. Roedd ei ymwneud a gwaith y Mudiad yn eang. Gweithiodd i’r Mudiad, gwasanaethodd fel cadeirydd i’r bwrdd rheoli ac roedd yn gefnogwr gydol oes. Gofynnwn i chi gofio ei wraig Liz a’r teulu yn eich gweddïau yn ystod yr amser anodd hwn. Er ein bod ni yn teimlo colled ffrind annwyl iawn, nid ydym yn galaru fel rhai heb obaith – Y mae bod yn absennol o’r corff yn golygu ein bod gartref gyda’r Arglwydd.
Bydd gwasanaeth diolchgarwch am fywyd Gwynn yn digwydd am 3.00y.p. Dydd Llun, 15 Hydref yn Eglwys Efengylaidd yr Heath, Caerdydd. Bydd gwasanaeth claddu preifat yn digwydd o flaen llaw.