Ein Siop Llyfrau ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Gyda chalon drom a thristwch rydym yn rhoi hysbysiad y byddwn yn cau’r siop llyfrau Cristnogol ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae’r siop wedi profi colledion ariannol sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, ac wedi ymgynghori gydag eglwysi lleol a choleg ‘Union’ (Bryntirion) penderfynwyd y bydd y siop yn cau 31 Gorffennaf, 2017. Y diwrnod olaf ar gyfer busnes fydd 22 Gorffennaf 2017.
Mae’r siop bellach wedi gostwng prisiau’r holl stoc yn sylweddol ac am fwy o wybodaeth, ac i archebu dros y ffon (ar gyfer derbyn llyfrau drwy’r post) cysylltwch gyda’r siop yn uniongyrchol 01656665912.
Rydym yn diolch i Dduw am ei fendith ar waith y siop – dim ond yn nhragwyddoldeb y byddwn yn dod i weld y daioni a wnaethpwyd ynddi – ac rydym yn ddiolchgar am ymroddiad y staff dros y blynyddoedd.
Sylwer os gwelwch yn dda: Dim ond y siop ym Mhen-y-bont ar Ogwr sydd yn cau. Mae gweddill ein siopau yn y Bala, Bangor, Abertawe a Wrecsam yn parhau i fod ar agor, ac fe fyddant yn ddiolchgar iawn o’ch cefnogaeth.