Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Sefyllfa Wcráin

Mae llawer ohonom wedi edrych mewn sioc ac arswyd ar y sefyllfa sy’n datblygu yn yr Wcrain. Mae’n torri ein calonnau i weld drygioni ar waith, a’n calonnau’n hiraethu am gyfiawnder a heddwch. Yn arbennig o agos at ein calonnau mae ein brodyr a chwiorydd. Mae’n amlwg fod yr Eglwys yn sefyll yn gadarn, gan ddod â goleuni i sefyllfa dywyll trwy gariad ymarferol a rhannu’r efengyl. Rydym wedi rhoi rhestr o adnoddau isod gan rai o’n partneriaid agosaf sy’n gweithio yn y rhanbarth:

 

Yn y lle cyntaf, felly, yr wyf yn annog bod ymbiliau, gweddïau, deisyfiadau a diolchiadau yn cael eu hoffrymu dros bawb, dros frenhinoedd a phawb sydd mewn awdurdod, inni gael byw ein bywyd yn dawel a heddychlon, yn llawn duwioldeb a gwedduster. Peth da yw hyn, a chymeradwy gan Dduw, ein Gwaredwr, sy’n dymuno gweld pob un yn cael ei achub ac yn dod i ganfod y gwirionedd. 1 Timotheus 2:1-4

Byddwn yn ychwanegu mwy o wybodaeth pan fyddwn yn ei dderbyn.