Gyda thristwch mawr rydym yn hysbysu holl gyfeillion a chefnogwyr y Mudiad o farwolaeth sydyn Rhian Middleton, rheolwr swyddfa’r de.
Mae’n anodd darganfod y geiriau i ddisgrifio’r hyn a deimlwn o golli ein ffrind and cyd-weithwraig oedd yn rhan mor bwysig o’n tîm staffio. Er y byddwn yn ei cholli yn fawr, nid ydym yn galaru fel rhai heb obaith, gan ein bod yn gwybod ei bod yn awr gyda’i Gwaredwr.
Rydym yn cydymdeimlo yn fawr gyda theulu Rhian a gofynnwn i chi gofio amdanynt yn eich gweddïau.
Bydd manylion yr angladd yn cael eu rhoi ar y wefan pan fyddant ar gael.
Yr wyf yn gwbl sicr na all nac angau nac einioes, nac angylion na thywysogaethau, na’r presennol na’r dyfodol, na grymusterau nac uchelderau na dyfnderau, na dim arall a grëwyd, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. Rhufeiniaid 8:38-39