Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Newyddion o Wyl y Gelli

Heddiw mae Eglwys Efengylaidd Bethesda, ‘Show Jesus’ a MEC yn cychwyn ar ymgyrch 4 diwrnod yng Ngŵyl y Gelli. Rydym wedi cychwyn ar y gwaith amser cinio.

  • Ein thema yw STORI
  • Rydym yn gofyn i bobl am eu storïau hwy (gwelwch y llun isod).
  • Mae gennym gwestiwn bob diwrnod lle’r ydym yn gwahodd pobl i nodi a ydynt yn cytuno, anghytuno neu ddim yn siŵr.
  • Mae’r cwestiwn heddiw i wneud gyda dioddefaint. Bydd David Donegani yn rhannu ei stori o ddioddefaint a’r hyn y mae Duw wedi gwneud drwy ei fywyd.
  • Mae gennym y papurau newydd stori hefyd – ac mae stori David ynddynt.
  • Mae lluniaeth, gweithgareddau i’r plant a digon o lyfrau i bobl edrych arnynt a mynd a hwy adref.

Mae nifer dda o wirfoddolwyr yn ein helpu, a gweddïwch yn arbennig dros y gweinidog Gordon a Helen Bingham wrth iddynt arwain. Gweddïwch am sgyrsiau da a chyfle i rannu’r efengyl.

Diolch,

Dave Norbury

Newyddion diwethaf