Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Newyddion o Fryn y groes

Y diweddaraf

“Bwriwch eich holl bryder arno ef, oherwydd y mae gofal ganddo amdanoch.” 1 Pedr 5:7

Dyna fendith yw gallu bwrw ein HOLL bryder ar Ein Tad Nefol– gan wybod bod gofal ganddo amdanom ni. Mae’n ein gwahodd ni i ddod â’r cwbwl ato fe – oherwydd does dim byd y tu allan i gylch ei ofal drosom. Felly, rydyn ni’n cael anogaeth i weddio am faterion adeiladu, dyddiadau cwblhau, dewis dodrefn a sialensau’r tywydd, ac mae Duw wedi’n synnu ni gyda’r ffordd mae’n ateb ein gweddiau. Rydyn ni’n diolch Iddo yn arbennig am roi tangnefedd i ni wrth orffwys ar y ffaith ei fod e mewn rheolaeth.

Rydyn ni’n ddiolchgar bod rhan gyntaf y gwaith wedi ei gwblhau mewn amser ar gyfer y Mini Gwersyll ar ddiwedd Chwefror. Mae’r cyfleusterau en-suite newydd mewn 5 ystafell wedi eu cwblhau i safon uchel ac wedi eu gwethfawrogi gan yr ymwelwyr cyntaf i’w defnyddio. Fe weithiodd y contractwyr yn galed iawn, a chawson ni help gwerthfawr gan wirfoddolwyr i godi gwelyau ac i ddod a phethau i ben mewn amser. Rydyn ni wir yn gwerthfawrogi help ymarferol fel hyn, yn ogystal a’ch gweddiau.

Mae’r anecs newydd yn dod yn ei flaen yn dda – mae’r to bron a’i gwblhau ac mae’r waliau mewnol yn cymryd siap. Mae’n gyffrous gweld ystafelloedd go iawn yn ymddangos! Disgwyliwn i’r ffenestri gael eu gosod yn fuan iawn nawr. Gweddiwch os gwelwch yn dda na fydd yr ymwelwyr sydd gyda ni yn y prif dy yn y Gwanwyn yn cael eu heffeithio gan y gwaith adeiladu sydd ar y safle. Dyddiad cwblhau’r gwaith yw canol mis Mai. Gweddiwch y bydd y dyddiad yn cael ei gwrdd, oherwydd mae grwpiau mawr wedi trefnu dod yma o ddechrau’r haf ymlaen, a byddwn angen yr adeilad newydd.

Ar hyn o bryd rydyn ni yn y broses o ddewis celfi, ffitiadau a dodrefn. Cawsom ein hannog i creu rhestr rhoddion, ac mae’r parseli sy’n cyrraedd y drws yn ddyddiol yn anogaeth arbennig i ni. Os hoffech chi gyfrannu, dilynwch y linc i’r rhestr rhodd Amazon yma.  Fe welwch chi eitemau bach a mawr, a hyd yn oes opsiwn o brynu tocyn rhodd.

Bydd angen help ymarferol ar ddiwedd mis Mai i godi a gosod dodrefn, a gosod ffitiadau yn eu lle. Cysylltwch a Brynygroes os ydych chi mewn modd i helpu. DIOLCH

PWYNTIAU GWEDDI:
– Diolch am weddiau sydd wedi eu hateb ac am yr hyn sydd wedi ei gyflawni eisoes.
– Diolch am roddion a chefnogaeth.
– Gweddiwch y bydd y dyddiad gorffen yn cael ei gwrdd.
– Gweddiwch dros Robert Adlam (rheolwr prosiect).
– Gweddiwch am ddoethineb i ni wrth gynllunio diwyg a dewis dodrefn.

Pob bendith

Gwydion a Catrin

Newyddion diwethaf