Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Melltigedig fo’r sawl sydd â’i hyder mewn meidrolyn, ac yn gwneud cnawd yn fraich iddo, ac yn gwyro oddi wrth yr ARGLWYDD. Bydd fel prysgwydd yn y diffeithwch; ni fydd yn gweld daioni pan ddaw. Fe gyfanhedda fannau moelion yr anialwch, mewn tir hallt heb neb yn trigo ynddo.
Bendigedig yw’r sawl sy’n hyderu yn yr ARGLWYDD, a’r ARGLWYDD yn hyder iddo. Y mae fel pren a blannwyd ar lan dyfroedd, yn gwthio’i wreiddiau i’r afon, heb ofni gwres pan ddaw, a’i ddail yn ir; ar dymor sych ni phrydera, ac ni phaid â ffrwytho. Jeremeia 17:5-8
Dyma’r adnodau sy’n sail i’n gwaith yn yr Eisteddfod eleni.
Ein profiad
Trwy ras cawsom ein plannu a’n huno gydag Iesu ac rydym wedi gweld mai yn yr Arglwydd y mae ein hunig obaith. Rydym yn profi yn ddyddiol y cariad a’r berthynas ryfeddol sy’n arwain o realiti’r groes a’r atgyfodiad.
Ein pobl
Mae pobl Cymru angen Crist. Gwyddom am realiti’r farn sydd i ddod, ond gwelwn hefyd y canlyniadau amlwg heddiw o gael hyder mewn pobl a’n syniadau ni. Gobeithiwn fod pobl yn dechrau gweld yr anialwch a diffeithwch a geir o bwyso ar yr hunan.
Ein neges
Neges real sydd gennym i’w rhannu. Neges am afon ryfeddol o ras a chariad sy’n sail i fywyd yn y byd hwn a thu hwnt i farwolaeth. Neges am yr Arglwydd Iesu.
Ein tîm
Rydym yn hollol argyhoeddedig fod yn rhaid i ni hyderu a disgwyl wrth yr Arglwydd yn y gwaith. Does gennym ddim technegau, doniau na phŵer ysbrydol i newid calon unrhyw berson. Gwirion fyddai cael hyder yn ein hunain, ac felly mae’n hyder ynddo Ef.
Mwy o fanylion yma