Mewn byd sydd yn newid yn barhaus, a lle gwelwn effeithiau pechod mewn gymaint o ffyrdd, rydym yn diolch am wir obaith y Nadolig hwn.
Bydd yn esgor ar fab, a gelwi ef Iesu, am mai ef a wareda ei bobl oddi wrth eu pechodau. Mathew 1:21
Diolch am eich partneriaeth yn yr Efengyl unwaith eto eleni, ac rydym yn dymuno Nadolig bendithiol iawn i chi. Medrwn edrych ymlaen mewn gobaith i 2021 – nid gan y bydd gennym frechlyn (er y bydd hynny yn wych), ond oherwydd fod Duw yn rheoli a fod gennym y newyddion gorau i rannu gyda byd colledig – mae Iesu yn achub!
Rydym wedi’n caru yn fwy nag y medrwn fyth ei ddychmygu!
Steffan Job ar ran Mudiad Efengylaidd Cymru
Swyddfa’r Gogledd.