Dyma neges sydyn i’ch hysbysu y bydd y mini-gwersyll yn digwydd yr hanner tymor hwn!
Yn amlwg, rydym wedi bod yn cadw golwg agos ar y sefyllfa a’r rheolau ynghylch cofid-19, ond rydym bellach mewn lle i gadarnhau ein bod am agor archebion yn fuan. Er ansicrwydd y misoedd diwethaf, rydym wedi paratoi tim o swyddogion, ac mae’r trefniadau wedu eu gwneud (gweler y manylion isod).
Byddwn yn gyrru ebost pellach wythnos nesaf yn cadarnhau y trefniadau, ac yn eich hysbysu sut a phryd i archebu.
Diolch!
Mini Gwersyll 2022!
Ymunwch gyda ni am bedwar diwnrod o o hwyl, sbri, cyfle i siarad gyda ffrindiau a dysgu mwy am Dduw.
Pryd?
• Dydd Llun – Iau, wythnos hanner tymor (21-24 Chwefror)
I bwy?
• Plant a phobl ifanc oed 9-18 (Blynyddoedd Ysgol 5-13)
Beth?
• Llond trol o hwyl, gemau, cwisiau, sgwrs fer o’r Beibl, gwobrau a cyfle i siarad gyda ffrindiau.
Arweinwyr?
• Steffan Job, Sioned Nuss ac Aron Treharne
Archebu?
• Gwybodaeth yn cael ei ryddhau wythnos gyntaf Chwefror (gyda chanllawiau cofid)