Â’i ffydd yn Nuw drwy ei Harglwydd Iesu Grist, bu farw Mair Eluned Davies yn dawel yng Nghartref Gofal Tŷ Gwyn, Penarth, ar 11 Ionawr 2023, yn 93 mlwydd oed. Gwraig annwyl y diweddar Barch. J. Elwyn Davies, mam addfwyn a gwerthfawr, nain a hen nain garedig, chwaer, modryb a chyfaill ffyddlon.
Fe’i galwyd i’w gorffwysfa dragwyddol ar ôl bywyd o wasanaeth ffyddlon.
‘Gwerthfawr yng ngolwg yr Arglwydd yw marwolaeth ei saint Ef’ (Salm 116 ad.15).
Gwasanaeth preifat i’r teulu dydd Mawrth, 24 Ionawr 2023 am 11.00 yb, yng Nghapel Gorffwys Login, Llangynnwr, Caerfyrddin SA32 2PG ac ym mynwent Caerfyrddin.
Gwasanaeth cyhoeddus o ddiolchgarwch i ddilyn am 2.30yp yn Eglwys Freeschool Court, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 3AG. Dan arweiniad John Treharne, Hywel Meredydd, Eryl Davies a Iwan Rhys Jones. Darlledir y Gwasanaeth drwy ffrydio byw a’i recordio. Ceir y ddolen gyswllt ar dudalen Facebook Hywel Meredydd neu Emyr Afan o Nos Lun ymlaen.
Blodau teulu yn unig. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Canolfan Bryn y Groes, Y Bala a’r National Rheumatology Arthritis Society, drwy law’r ymgymerwr, Glanmor Evans a’i Fab, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin, SA32 2PG.