Mae Llythyr Gweddi MEC yn newid
Yn ein hymdrech i geisio hybu gweddi a gwasanaethu Cristnogion ac eglwysi yng Nghymru bydd y llythyr gweddi yn ymddangos yn wythnosol o fis Mehefin ymlaen.
Bydd y llythyr ar gael dros e-bost a thrwy’r wefan ac fe fydd yn cynnwys pwyntiau gweddi byr am waith yr efengyl o gwmpas Cymru yn ogystal â gwaith MEC. Bydd modd i unigolion ac eglwysi gyfrannu at y bwletin wythnosol.
A wnewch chi ystyried:
- Derbyn y pwyntiau yn wythnosol gan eu cofio yn eich gweddïau;
Gyfrannu pwyntiau gweddi pan fyddwch yn cynnal gweithgaredd neu ddigwyddiad efengylu.
I dderbyn y bwletin ac i gyfrannu ewch i’r wefan yma: