Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Llewyrch i’m Llwybr – Fedrwch chi helpu?

Bob blwyddyn mae MEC yn cynhyrchu Calendr lliw gydag adnod ddyddiol a lluniau o olygfeydd o bob rhan o Gymru.

Rydym yn gobeithio gwneud yr un peth eleni, ac mae’r adnodau yn eu lle, ond mae angen lluniau!

Rydym yn chwilio am unigolion fyddai’n barod i rannu lluniau maent wedi eu tynnu o rannau gwahanol o Gymru er mwyn defnyddio yn y Calendr.

Bydd pawb sydd yn darparu llun fydd yn cael ei ddefnyddio yn derbyn 5 copi o’r calendr fel rhodd.

Mae angen i’r lluniau fod o faint 1mb neu fwy, yn llorweddol (landscape) ac yn cynnwys golygfa o Gymru.

Am fwy o wybodaeth, neu i yrru llun i ni, cysylltwch gyda Rebecca yn y swyddfa – swyddfa@mudiad-efengylaidd.org

Diolch o galon

 

Newyddion diwethaf

Newyddion nesaf