Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Hysbysiad Swydd

Cynorthwy-ydd Gofal Tŷ & Arlwyo

(Un swydd 32 awr yr wythnos, neu dwy swydd 16 awr yr wythnos)

Mudiad Efengylaidd Cymru – Canolfan Gynadledda Bryn-y-groes, Bala

Canolfan Gynadledda Gristnogol brysur yw Bryn-y-groes, y Bala. Mae’n eiddo i Fudiad Efengylaidd Cymru. Gall y ganolfan dderbyn hyd at 75 o bobl ar y tro. Mae’n darparu llety penwythnos, ganol wythnos, ac ymweliadau dydd ar gyfer ystod eang o ddigwyddiadau, yn cynnwys gwersylloedd haf i ieuenctid, grwpiau teuluol ac eglwysi, Undebau Cristnogol colegau a phrifysgolion, ymweliadau preswyl i ysgolion, enciliadau a gwyliau Cristnogol, cynadleddau a hyfforddiant i weinidogion, ynghyd a grwpiau heb fod yn benodol Gristnogol. Mae’n cynnig llety lluniaeth llawn neu lety hunan-arlwyol. Mae yno dŷ mawr traddodiadol, ac anecs newydd sbon a fflat hunan-arlwyol. Mae’r ganolfan ar agor drwy’r flwyddyn ond ar ei brysuraf rhwng y Pasg a diwedd Hydref.

Yn ôl Rheolwyr y Ganolfan bwriad y rôl yw cynorthwyo gyda dyletswyddau gofal tŷ ac arlwyo i gwrdd ag anghenion ddefnyddwyr y safle. Y prif gyfrifoldebau fydd:

  • Gofal tŷ – glanhau ystafelloedd gwely, ystafelloedd ymolchi a thoiledau, ynghyd ac ardaloedd cymunedol; paratoi’r adeilad ar gyfer ymwelwyr; golchi cynfasau a pharatoi gwelyau yn ôl yr angen; glanhau dwys ar adegau penodol o’r flwyddyn; cyfathrebu gyda’r rheolwyr ynglyn ac unrhyw faterion cynnal a chadw.
  • Arlwyo – cynorthwyo’r rheolwraig arlwyo wrth baratoi’r neuadd fwyta; paratoi bwyd; diwrnodau pobi; gweini; golchi llestri; dyletswyddau hylendid bwyd; cyfathrebu gydag ymwelwyr ynglyn ag anghenion bwyd ac alergeddau. Gyda phrofiad a hyfforddiant bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn abl i gamu i fyny i ofalu am y gegin yn annibynnol pan fydd angen.

Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio’n dda fel aelod o dîm ac i barchu ethos Gristnogol y Ganolfan. Bydd angen iddynt allu gweithio yn unol â gofynion y polisiau a’r dulliau perthnasol, gan gymryd cyfrifoldeb o’u iechyd a’u diogelwch eu hunain ac eraill. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn fanteisiol iawn. Bydd angen archwiliad DBS.

Gall y rôl fod yn un swydd 32 awr yr wythnos, neu gellir rhannu’r gwaith yn ddwy swydd 16 awr yr wythnos. Yn y ddau achos, bydd angen gweithio oriau hyblyg, yn cynnwys sifftiau a gweithio ar benwythnosau.

Am ragor o wybodaeth neu i ofyn am becyn ymgeisio, cysylltwch a Gwydion a Catrin Lewis yn Bryn-y-Groes, Heol Pensarn, Bala, Gwynedd LL23 7YE neu ebostiwch nhw ar brynygroes@mudiad-efengylaidd.org

Dyddiad cau 31 Ionawr, 2020

An English copy of the advertisement can be obtained by clicking on the language option at the top of this page.

Newyddion nesaf