Hysbyseb am Swydd Rheolwr Cyllid
Dyma gyfle i gefnogi gwaith yr efengyl yng Nghymru.
Mae’r Rheolwr Cyllid yn aelod allweddol o’r staff, yn gyfrifol am reolaeth dydd i ddydd holl brosesau, rheolaethau ac adroddiadau cyllidol y Mudiad. Mae hon yn rôl ymarferol sydd ag ond ychydig o gymorth gweinyddol ar hyn o bryd; felly byddai’n addas iawn i rywun sydd a phrofiad o weithio mewn rôl gyllidol aml-ddisgyblaeth.
Mae Mudiad Efengylaidd Cymru yn edrych am berson sy’n hollol abl i ysgogi ei hun, a sy’n gallu gweithredu yn annibynnol i ddarparu gwytnwch ar draws ein strwythyr cyllid.
Bydd hyn yn cynnwys adolygu, ac, os oes angen, datblygu prosesau a gweithdrefnau newydd i gryfhau a mireinio ein systemau cyllid, rheolaethau cyllid a’n dulliau adroddiadol. I’r diben hwn, bydd angen y profiad a’r brwdfrydedd i greu newidiadau er mwyn ateb anghenion y Mudiad wrth i ni barhau a’n gweinidogaethau drwy a thu hwnt i bandemig y coronavirus. Mae’r swydd hon yn swydd dros dro, llawn amser am hyd at ddeuddeg mis.
Fe fydd yna swydd barhaol, rhan amser ar ddiwedd y cyfnod o adolygu a datblygu.
Mae croeso i ymgeisgwyr nad sydd a diddordeb yn y rôl barhaol rhan amser, ymgeisio ar gyfer y rôl ddechreuol llawn amser yn unig.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn berson tra threfnus, yn gyfathrebwr da, ac â sgiliau analytig a thaenlennu gwych, ac a chymwyster cyfrifyddol rhannol neu gyflawn.
Am fwy o wybodaeth neu i gael Pecyn Cais, cysylltwch â Mark Thomas ar markthomas@emw.org.uk os gwelwch yn dda.
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 30 Mehefin 2021.