Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Hysbyseb am Swydd – Rheolwr Cyllid

Hysbyseb am Swydd – AIL-HYSBYSEBU

Rheolwr Cyllid – LLAWN-AMSER

Dyma gyfle i gefnogi gwaith yr efengyl yng Nghymru.

Mae’r Rheolwr Cyllid yn aelod allweddol o’r staff, yn gyfrifol am reolaeth dydd i ddydd holl brosesau, rheolaethau ac adroddiadau cyllidol y Mudiad. Yn ogystal â hyn mae gan y rheolwr cyllid fewnbwn i reolaeth yr adeiladau ac i adnoddau dynol.

Mae hon yn rôl ymarferol sydd ag ond ychydig o gymorth gweinyddol ar hyn o bryd; felly byddai’n addas iawn i rywun sydd a phrofiad o weithio mewn rôl gyllidol aml-ddisgyblaeth.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn cymryd rhan yn adolygu ein sefyllfa gyllidol yn y lle cyntaf, ac yna yn gweithredu unrhyw newidiadau angenrheidiol wrth i’r Mudiad ddod allan o gyfnod y pandemig.

Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn berson tra threfnus, yn gyfathrebwr da, ac â sgiliau analytig a thaenlennu gwych, ac a chymwyster cyfrifyddol rhannol neu gyflawn.

Mae hon yn swydd barhaol, llawn amser.

Am fwy o wybodaeth neu i gael Pecyn Cais, cysylltwch â Mark Thomas ar markthomas@emw.org.uk os gwelwch yn dda.

Dyddiad cau: 31 Hydref 2021.