Diolch i Dduw am ei ofal drosom ym Mryn-y-groes dros gyfnod yr haf. Bu’r gwersylloedd i gyd dan ofal a bendith Duw, ac roedd yn bleser treulio amser gyda’r timau gwych o swyddogion ac arweinwyr, gyda’r gwersyllwyr hwyliog, a gyda’n gwirfoddolwyr arwrol. Bu diwedd yr haf yn arbennig o brysur yn gwagio’r anecs er mwyn cychwyn y prosiect adeiladu, a hynny tra bod ymwelwyr yma i’w gwasanaethu ar yr un pryd. Diolch eto am bob help.
Mae’r gwaith ynglyn â’r prosiect adeiladu wedi cychwyn ers mis bellach, ac rydyn ni yn y broses o wneud llanast! Bu’r peiriannwyr ddim yn hir yn dymchwel yr hen Anecs, ac mae’r concrit bellach wedi ei falu yn ddarnau mân ac wedi ei ddefnyddio I lefeli rhannau o’r tir allanol. Mae’r contractwyr yn gweithio’n ddyfal bob dydd ac yn gwneud cynnydd da wrth baratoi’r sylfeini. Rydyn ni’n edrych ymlaen i’r cyfnod y tu hwnt i’r creu llanast, pan welwn ni’r waliau cyntaf yn dechrau cael eu codi.
Diolch:
- Am bobl sy’n cefnogi’r gwaith mewn rhoddion, mewn gweddi ac yn ymarferol.
- Ers cychwyn ar y gwaith mae nifer o bobl wedi rhannu eu hatgofion am fendithion y gorffennol. Diolch mai’r profiadau o Dduw a’r gymdeithas sy’n bwysig – nid yr adeilad ei hun.
- Am ffyddlondeb Duw, ac nad yw Ef yn newid, hyd yn oed pan mae’r allanol yn newid.
Pwyntiau gweddi:
- Y bydd y gwaith yn gallu symud yn ei flaen heb oedi, ac o fewn y gost.
- Na fydd y gwaith yn amharu ar yr ymwelwyr sydd gyda ni dros yr wythnosau nesaf. Edrychwn ymlaen i ymweliad nifer o eglwysi, Undebau Cristnogiol Prifysgolion Bangor ac Aberystwyth, a gwersyll ‘Good News’.
- Dros Robert Adlam sy’n rheoli’r prosiect – mae’n ddyfal iawn yn ysgwyddo’r baich.
- Y bydd rhoddion yn dal i ddod tuag at y gwaith.
- Y byddwn ni’n cael doethineb wrth wneud penderfyniadau ymarferol wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen.
- Na fydd ein holl ffocws yn mynd ar yr adeilad, ond y byddwn yn cofio ein gweinidogaeth pellach.
Na fydd y gwaith yn amharu ar ein cymdogion yma ym Mryn-y-Groes.