- Ni allem fyth ail-greu gwersylloedd ar-lein, ond nid oeddem am adael pobl ifanc heb unrhyw beth dros fisoedd yr haf – gwyddom fod y cyfnod cloi wedi bod yn arbennig o anodd arnynt. Dros fis Awst rydym yn cynllunio cyfnod o dair wythnos o sesiynau gwersyll ar-lein yn y ddwy iaith. Bydd y sesiynau hyn yn cynnwys sgyrsiau byr gan y caplaniaid, astudiaethau Beibl, tystiolaethau a heriau gyda’r arweinwyr a’r swyddogion. Gweddïwch y byddai’r Arglwydd yn bendithio’r bobl ifanc trwy’r gweithgareddau hyn. Unwaith eto, mae’r manylion llawn ar y wefan.
- Mwy o wybodaeth yma