Mae MEC wedi lansio gwefan newydd i helpu eglwysi yn ystod y cyfnod anodd ond o gyfle hwn.
Steffan Job sy’n esbonio…
Rydym yn ymwybodol fod gymaint yn mynd ymlaen ar hyn o bryd ac mae llawer wedi cysylltu i ofyn am gyngor. Mae’n anodd i eglwysi dderbyn y newyddion diweddaraf ac mae llawer y gallent ei ddysgu oddi wrth eu gilydd – mae gymaint allan yna! Rydym wedi penderfynu mae’r ffordd orau o wneud hyn yw creu hwb canolog lle y gall pobl dderbyn y wybodaeth, adnoddau a newyddion diweddaraf.
Golau.org – ein gobaith yw y bydd y wefan yn gymorth i eglwysi fod yn olau i’r efengyl yn ein cymunedau yn ystod y cyfnod yma.
Rydym am i bobl gysylltu gyda ni i ddweud beth maent yn ei wneud, fel y medrwn rannu gydag eraill. Mae modd gwneud hyn drwy’r wefan neu drwy gysylltu gyda’r swyddfa – swyddfa@mudiad-efengylaidd.org
Rydym hefyd yn edrych ymlaen i lansio gwefan efengylu ‘Holi’ yn ystod y dyddiau nesaf.