Mae MEC yn fwy argyhoeddedig nag erioed o’r angen am weddi ac felly rydym yn parhau gyda’n Galwad i Weddi i annog Cristnogion i ymuno â ni i weddïo dros Gymru yn ystod wythnos gyntaf mis Mawrth.
Pam Galwad i Weddi?
Gwyddom fod ein bywyd gweddi yn rhan allweddol o’n disgyblaeth a’n cymdeithas â Duw ac nid oes gennym unrhyw awydd i dynnu Cristnogion o’r materion hynny y maent eisoes yn gweddïo amdanynt. Ein dymuniad yn syml yw annog gweddi am fendith Duw ar ein tir ac ar bopeth a wnawn fel Mudiad, i feithrin mwy o ymdeimlad o undod, ac i’n helpu i ganolbwyntio ein llygaid ar Dduw, sef ein gobaith.
Gweddïwn y bydd yr Alwad yn anogaeth ichi yn eich cerddediad gyda Duw a hyderwn y bydd yn galondid ichi ganolbwyntio ar ein Duw mawr a gogoneddus.
Sut i ddefnyddio’r Alwad i Weddi?
Bob dydd byddwn yn canolbwyntio ar wirionedd gwahanol am Dduw trwy ddarlleniadau o’r Beibl, defosiwn byr, rhai cwestiynau ar gyfer myfyrdod a phwyntiau gweddi. Bydd y cynnwys yn cael ei bostio ar-lein isod (ar y wefan a thrwy gyfryngau cymdeithasol) a’i anfon trwy e-byst (gallwch optio i mewn yma). Efallai yr hoffech chi ddefnyddio’r canllaw bob dydd am wythnos (ynghyd â channoedd o Gristnogion eraill) neu efallai yr hoffech chi ei ddefnyddio dros sawl wythnos. Mae croeso i chi ei ddefnyddio yn y ffordd y mae’r Arglwydd yn eich tywys, a rhannwch ef gydag eraill yn eich eglwys hefyd.
- Cyflwyniad i’r alwad i weddi (lawrlwythwch a gweld yma CalltoPray2021_Cymraeg_intro)
- Dydd Llun 1 Mawrth – Duw y crëwr (Datguddiad 4:11) – yn dod yn fuan
- Dydd Mawrth 2 Mawrth – Duw yr anghymar (Eseia 40:18) – yn dod yn fuan
- Dydd Mercher 3 Mawrth – Gellir adnabod Duw (Mathew 11:27) – yn dod yn fuan
- Dydd Iau 4 Mawrth – Mae Duw yn berffaith (Datguddiad 20:15) – yn dod yn fuan
- Dydd Gwener 5 Mawrth – Cariad yw Duw (1 Ioan 4: 8-10) – yn dod yn fuan
- Dydd Sadwrn 6 Mawrth – Mae Duw yn ffyddlon (Rhufeiniaid 3) – yn dod yn fuan
- Dydd Sul 7 Mawrth – Mae Duw yn oleuni (Ioan 1) – yn dod yn fuan
Cyfarfodydd Gweddi Ar-lein
Nid ydym am dynnu oddi wrth gyfarfodydd gweddi Eglwys, ond mae profiad diweddar wedi dangos inni y gall dod â Christnogion ynghyd o wahanol rannau o’r wlad fod yn galonogol iawn. Rydym felly wedi trefnu dau gyfarfod gweddi ar-lein i ddod â phobl ynghyd i weddïo ar y dyddiadau canlynol:
- 2il Mawrth – Dydd Mawrth – 11.00 y bore
- 6ed Mawrth – Dydd Sadwrn – 4.00 y pnawn
Gallwch gofrestru ar gyfer y cyfarfodydd gweddi hyn isod.