Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Galwad i Weddi

Mae MEC yn fwy argyhoeddedig nag erioed am yr angen am weddi ac felly rydym yn parhau gyda’r Alwad i Weddi ac yn annog Cristnogion i weddio dros Gymru yn ystod wythnos gyntaf mis Mawrth.

Sut mae bod yn rhan?

  • Ymuno a’r rhestr gweddi e-bost i dderbyn y newyddion diweddaraf.
  • Lawrlwytho’r cynllun gweddi drwy’r wefan bob dydd.
  • Rhannu’r cynllun gweddi gyda Christnogion eraill yn eich cymdogaeth.

Yr Wythnos Weddi

Bydd ebyst dyddiol yn cael eu gyrru allan i’r rhai sydd wedi gofyn am gael bod ar y rhestr gweddi (medrwch wneud hynny yma)

Cyflwyniad

Un o ddirgelion mawr gweddi yw ei fod yn cysylltu dau beth, sydd ar yr olwg gyntaf, yn hollol groes i’w gilydd.

1. Rydym yn agosáu at Dduw sydd yn dân ysol, yn hollol sanctaidd ac yn casáu pechod
2. Eto, ar yr un amser, cawn ein gwahodd i siarad gyda Duw fel y mae plentyn yn siarad gyda’i dad: yn hollol onest a didwyll, ac yn llawn hyder o’i gariad a’i allu i’n helpu.

Sut mae modd cysoni’r ddau beth?
Nid yw’n golygu mai’r unig rai all weddïo yw’r rhai sydd heb bechu. Yn hytrach mae’n golygu mai’r rhai sydd yn medru gweddïo yw’r rhai sydd wedi derbyn maddeuant pechodau drwy aberth yr Arglwydd Iesu Grist ar y groes.

I weddïo’n gymeradwy:
1. Rhaid i ni fod yn Gristnogion gwirioneddol, sydd wedi profi maddeuant drwy waed y groes- sut arall y medrwn ni ei alw’n Dad!
2. Rhaid i ni fod yn Gristnogion gwirioneddol sydd â chydwybod glan nad oes gennym bechod sydd heb ei gyffesu a all dorri ein perthynas gyda Duw – sut arall y medrwn ni ddisgwyl i gael ein clywed!

Ond eich camweddau chwi a ysgarodd rhyngoch a’ch Duw, a’ch pechodau chwi a barodd iddo guddio’i wyneb fel nad yw’n eich clywed.
. Eseia 59:2

Roedd John Newton yn deall hyn:

With my burden I begin:
Lord, remove this load of sin;
Let Thy blood, for sinners spilt,
Set my conscience free from guilt.

Ond mae mwy. Yn aml mae ein gweddïau yn cael eu heffeithio gan ein rhagfarnau, anghydbwysedd a’n pwyslais ni. Er mwyn i’n gweddïau fod yn dderbyniol i Dduw rhaid i Iesu eu glanhau hwy hefyd gyda’i waed. Yn yr Hen Destament roedd yr arogldarth oedd yn cael ei ddefnyddio yn y tabernacl yn symbol o weddïau ac addoliad y bobl, ac roedd allor yr arogldarth yn cael ei lanhau gyda gwaed yr aberth dros bechod, Ex. 30:10. Yn yr un modd mae ein haberthau ysbrydol ni yn gymeradwy i Dduw drwy Iesu Grist, 1 Pet. 2:5.

Felly am beth ddylem weddïo? Ar ewyllys yr Arglwydd a bendith Duw, ac mae hynny’n golygu bod yn rhaid i ni blygu a dweud “Gwneler dy ewyllys”.

Yn yr wythnos a’r flwyddyn nesaf, boed i ni:

  • fod eisiau ewyllys yr Arglwydd uwchben unrhyw beth arall;
  • ymddiried yn ei ddaioni;
  • ymbil am ei drugaredd;
  • diolch iddo am ei ras.

 

Yr Alwad i weddi

CalltoPrayer20Cym_blaen

CalltoPrayer20Cym_cyfarw

CalltoPrayer20Cym_cyflwyniad

CalltoPrayer20Cym_Sul

CalltoPrayer20Cym_Llun

Newyddion diwethaf

Newyddion nesaf