Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Diwrnod Gwersyll Cymraeg!

Gwersylloedd Diwrnod 2021

Ymunwch yn yr hwyl!

Dewch i un o’r dyddiau gwersylloedd yr haf hwn i weld ffrindiau hen a newydd, hwyl a sbri, ymlacio, a dysgu mwy am Iesu, i gyd mewn awyrgylch saff a Cofid-19 ddiogel.

Y Gwersyll Diwrnod Cymraeg – Dydd Mercher 11eg o Awst, Aberystwyth

  • Gweithgareddau a llawer o hwyl!
  • Sgwrs ar y Beibl a chyfle i ofyn Cwestiynau.
  • Gwneud ffrindiau ac ymlacio gyda’r swogs.
  • 11:00yb-5:00yp
  • 10-18 mlwydd oed
  • £5 y gwersyllwr.

Sut i Archebu?

Bydd archebion yn agor ar y tudalen hwn am 10:00yb ar Ddydd Mawrth 29 o Fehefin 2021. Oherwydd cyfyngiadau ar niferoedd yn ôl canllawiau’r llywodraeth, byddwn yn gweithredu rhestr wrth gefn os na fydd lle i bawb.

Cofid-19 Diogel

Gan na fydd yn bosib gweini bwyd yn rhan fwyaf o’n gweithgareddau, bydd angen i’r wersyllwr dod â chinio parod a photel ddŵr gyda nhw. Rydym yn gobeithio bod tu allan gymaint ag sy’n bosib, felly bydd angen i’r wersyllwyr bod yn barod ar gyfer pob math o dywydd! Bydd mwy o fanylion yn cael ei rannu yn agosach at y digwyddiad.

Am fwy o wybodaeth am MEC a’r gwersylloedd Cymraeg, ewch i’r dudalen gwybodaeth ar gyfer rhieni.