Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Diweddariad ynghylch y sefyllfa gyda Cofid-19

Firws Corona – 19/3/2020 diweddariad i’r cyhoedd gan MEC

Yn dilyn ein datganiad ddoe ynghylch y sefyllfa sydd wedi codi o ganlyniad i’r firws rydym yn gyrru diweddariad ynghylch digwyddiadau’r haf, ein sefyllfa ariannol a rhai o’r ffyrdd yr ydym am geisio helpu Cristnogion ac Eglwysi dros y misoedd nesaf.

Wedi llawer o weddi ac ystyriaeth, rydym am rannu’r canlynol:

  • Mae pob gwersyll haf eleni wedi ei ganslo. Rydym yn chwilio am bosibiliadau eraill i gynnal gwersylloedd mewn ffyrdd gwahanol neu yn hwyrach yn y flwyddyn a byddwn yn rhydau gwybodaeth pan fydd ar gael.
  • Mae’r ddwy gynhadledd flynyddol yn Aberystwyth yr haf wedi eu canslo. Eto, rydym yn chwilio am ffyrdd neu amser gwahanol i drefnu’r cynadleddau.
  • Byddwn yn cysylltu gyda phawb sydd wedi eu heffeithio i roi’r manylion ac/neu i drefnu ad-daliad llawn.

Er ein bod wedi ein tristau, a gwyddom y bydd llawer wedi eu siomi, rydym yn sicr ein bod wedi gwneud y penderfyniad cywir wrth i ni geisio ymateb mewn ffordd gyfrifol.

Fel Cristnogion a mudiad Cristnogol rydym wedi ein cysuro fod Duw yn rheoli ac rydym am dreulio’r wythnosau a’r misoedd nesaf yn parhau i’w wasanaethu a rhannu’r efengyl gydag eraill.

Gyda hyn mewn golwg, rydym yn cyhoeddi y bydd gwefan newydd yn cael ei lansio yn y dyddiau nesaf i helpu eglwysi yn ystod y cyfnod ansicr hwn. Bydd y wefan yn cynnwys adrannau i Gristnogion, i ieuenctid, i rai sy’n chwilio am atebion ac i arweinwyr eglwysi.

Hoffem sicrhau pawb ein bod wedi ystyried yn ofalus cyn gwneud y penderfyniadau hyn ac rydym wedi bod yn gweithio’n galed gyda’n hymddiriedolwyr a’n cynghorwyr. Byddwn yn cynnig ad-daliad llawn (gan gynnwys blaendal) i bawb o’n cwsmeriaid heb ddal neb i gontract gan ein bod yn credu mai dyma’r peth cywir i wneud yn wyneb y sefyllfa y mae pawb ynddi. Rydym yn amcangyfrif y bydd gohirio holl ddigwyddiadau’r haf yn golygu colledion o tua £200,000 i’r Mudiad, ac felly gofynnwn am weddi ynghylch y mater. Er eu bod yn ddyddiau heriol, rydym yn trystio yn yr Arglwydd ac yn parhau fel staff i weithio i gefnogi Cristnogion ac Eglwysi ein gwlad.

Am hynny, yr wyf yn ymhyfrydu, er mwyn Crist, mewn gwendid, sarhad, gofid, erledigaeth, a chyfyngder. Oherwydd pan wyf wan, yna rwyf gryf.
2 Corinthiaid 12:10

Newyddion diwethaf