Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Cyfle i weithio gyda’r Mudiad ym Mryn y Groes

Cynnal a Chadw, Gwaith Tir a Chynorthwyydd Cyffredinol Canolfan Gynadledda Gristnogol Bryn y Groes, Y Bala, Gogledd Cymru

Rydym yn chwilio am aelod newydd o staff brwdfrydig a galluog i weithio fel rhan o’n tîm ymroddedig o staff a gwirfoddolwyr o fewn ethos Canolfan Breswyl Gristnogol.

Mae manylion yn cynnwys:
• 16 awr yr wythnos
• Mae’r swydd hon yn cynnwys amrywiaeth eang o dasgau a fydd yn amrywio yn ôl gwaith tymhorol Bryn-y-groes.
• Rhaid i unrhyw un sy’n gwneud cais allu gweithio ar benwythnosau, a bod yn hyblyg yn eu dyddiau gwaith. Bydd y rota shifft yn amrywio er mwyn cyd-fynd â’r dyddiadur archebion.
• Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol iawn.

Dyletswyddau i gynnwys:
• Cynnal a chadw ac addurno sylfaenol yn yr adeiladau
• Agweddau amrywiol ar gynnal a chadw tiroedd (torri gwair, torri gwrychoedd, clirio llwybrau, chwynnu a garddio)
• Bydd hefyd angen cynorthwyo’r tîm yn rheolaidd gyda glanhau ar ddiwrnodau newid rhwng grwpiau, a chynorthwyo gyda golchi llestri.

Dyddiad cychwyn – 1 Ebrill 2022

Am fwy o wybodaeth ac i dderbyn ffurflen gais cysylltwch â Gwydion Lewis (Rheolwr y Ganolfan).