Croeso i ddiwrnod olaf y Gynhadledd ar lein
Dydd Mercher
8.30 – Clwb ‘Awr Blant’ yng ngofal Lois Adams a Bedwyr Lewis. Cyfle i ddysgu mwy am Iesu drwy storiâu, gweithgareddau a chanu. Yn arbennig i blant oed cynradd. (Gwylio hysbys yma) Adnoddau i lawrlwytho yma
9.00 – Cyfarfod Gweddi ar Zoom. Cyfle i alw ar yr Arglwydd gyda’n gilydd o bob rhan o Gymru. Cofrestru yma
4.00 – Llwybrau. Bydd Emyr James yn arwain astudiaeth Feiblaidd fyr ar lythyr Effesiaid (yn seiliedig ar ei lyfr newydd) i bobl ifanc oed uwchradd.
7.15 – Oedfa dan arweiniad Rhun a Lowri Emlyn gydag eitemau amrywiol, cyfweliadau a sgwrs ganJohn Treharne (Tabernacl, Llwynhendy)
8.30 – Darganfod mwy. Cyfarfod anffurfiol a rhyngweithiol yng ngofal Steffan Job ac Elin Bryn gyda gwesteion arbennig a chyfle i ofyn cwestiynau.