Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Bywyd – Cynhadledd 2020

Go brin y byddai unrhywun wedi rhagweld beth fyddai’r sefyllfa ar gyfer Cynhadledd 2020 wrth i ni ffarwelio gyda’n gilydd ar nos Wener olaf Cynhadledd y llynedd! Mae hi wedi bod yn flwyddyn wahanol iawn ac mi fyddwn ni’n sicr yn methu’r gymdeithas o fod gyda’n gilydd eleni yn Aberystwyth. Ond rydym yn gwybod fod Duw yn rheoli ac felly rydym yn medru gorffwys yn ei gynlluniau perffaith, gan ryfeddu at y drysau sydd wedi eu hagor ganddo. Eleni, byddwn yn parhau i roi’r pwyslais ar geisio’r Arglwydd gyda’n gilydd drwy weddi, drwy blygu o dan ddysgeidiaeth y Beibl, trwy bregethu’r gair a thrwy rannu’r efengyl yn ddisgwylgar.

Felly croeso i drefniadau Gynhadledd Bywyd 2020!

Gan fod y Gynhadledd eleni ar gael i lawer mwy o ffrindiau a chyd-gymry, rydym wedi rhoi gwedd wahanol ar bethau gan benderfynu edrych yn fanylach ar fywyd, wedi’r cyfan dyna sydd yn hanfodol i bawb. Fel y dywedodd Iesu “Pa les i berson ennill yr holl fyd, ond colli ei fywyd ei hun?” Bydd croeso mawr i bawb i ymuno ar lein ac am ddim.

 mwy o wybodaeth