Annwyl Gyfaill,
A ninnau ar ddiwrnod olaf y tymor ysgol, dyma achub ar y cyfle i ysgrifennu atoch i ddymuno gwyliau hapus i bawb ac i ofyn i chi gofio am rhai o’n gweithgareddau dros y mis nesaf.
‘Cod, a dos i’r stryd a elwir Y Stryd Union, a gofyn yn nhŷ Jwdas am ddyn o Darsus o’r enw Saul; cei hyd iddo yno, yn gweddïo’ Actau 9:11
Dyma adnod digon di-nod o hanes tröedigaeth Saul a neges Duw i Ananias, ond mae yna wirionedd dwfn y tu ôl i’r geiriau.
Sylwch beth mae Saul yn ei wneud… gweddïo.
Mae hi weithiau’n hawdd i ni golli golwg ar bwysigrwydd a braint y Cristion o gael gweddïo, ond mae’n hanfodol.
Yn yr adnod hon gwelwn effaith tröedigaeth ar berson drwy iddynt gael eu mabwysiadau yn rhan o deulu a derbyn perthynas newydd gyda Duw. Wrth i Saul gael ei achub mae’r drysau’n agor i’r nefoedd ac mae’n derbyn ysbryd newydd sy’n medru galw allan ar ei Dad yn y nefoedd. Tybed nad oedd y ffaith fod Saul yn gweddïo yn help i Ananias hefyd? Roedd yn gwybod am ddrygioni Saul, ond dyma glywed fod y dyn hwn bellach yn gweddïo… onid oedd hwn yn brawf rhyfeddol fod Saul wedi newid ac wedi ei achub!
Braint ryfeddol y Cristion yw cael siarad gyda’n Tad nefol; cael treulio amser yn ei gwmni a’i addoli, a chael cyflwyno ein hanghenion iddo.
Dros yr haf fe fydd gymaint yn digwydd, ond rwyf mor ymwybodol fod yn rhaid i ni wneud y cyfan mewn ysbryd o ddibyniaeth lwyr ar Dduw. Drwy weddïo a phwyso ar Dduw y bydd gwir werth a ffrwyth yn dod i’r cyfan a wnawn drosto.
Felly plis gweddiwch dros…
Y Gynhadledd
Braint fydd cael bod yn y cynadleddau eleni yn gwrando ar air Duw yn cael ei esbonio, yn galw ar enw Duw mewn gweddi ac yn treulio amser gyda brodyr a chwiorydd y ffydd. Gweddïwch yn arbennig dros Emyr James fydd yn siarad ym mhrif gyfarfodydd y gynhadledd Gymraeg ar y thema ‘Yr Eglwys: Cynllun yr Arglwydd’. Gweddïwch hefyd dros Rhun Emlyn fydd yn arwain y gwaith i blant hyn, fi a Debs fydd yn arwain y gwaith plant ifanc a Gerwyn a’r tîm fydd yn arwain y gwaith ieuenctid. Gweddïwch hefyd dros Wyn Davies y cadeirydd, Geraint Morse, Arfon Jones, Derek Rees a Gwynn Williams fydd yn siarad yn y nosweithiau a Gwyon Jenkins fydd yn arwain y cyfarfodydd gweddi.
Mae gymaint o gyfarfodydd a gweithgareddau wedi eu trefnu (ewch draw i’r wefan i weld), ond y peth pwysig yw bendith Duw.
Y Gwersylloedd
Mae’r gwersylloedd yn cychwyn yfory a dros y ddau fis nesaf bydd 11 gwersyll yn cael eu cynnal a dros 400 o blant yn mynychu. Gweddïwch dros yr holl wersylloedd, ond yn arbennig dros y ddau wersyll Cymraeg fydd yn cael eu cynnal 12-19 o Awst. Arweinwyr y gwersylloedd Cymraeg yw Dewi George, Steve Bowen, Rachel Llwyd a Lois Adams, a’r caplaniaid yw John Aaron a Steffan Jones.
Cofiwch hefyd am griw Bryn-y-groes fydd yn brysur iawn dros yr haf.
Yr Eisteddfod
Plîs gweddïwch y cawn nifer o sgyrsiau a chyfleoedd i rannu’r efengyl ac y gwelwn bobl yn cael eu hachub. Mae’r cylchgrawn wedi ei gynhyrchu a gellir ei weld ar ein gwefan. Gweddïwch drosof finnau yn arbennig fydd yn arwain y tîm – mae digon o angen mwy o bobl ar y tîm ac os oes rhywun arall eisiau ymuno.
Dau adnodd newydd
Braf yw cael dweud fod y calendr wedi cyrraedd a bod llyfr newydd ‘Geiriau Bywyd’ gan Iwan Rhys Jones yn cyrraedd y swyddfa’r wythnos nesaf. Plîs gweddïwch y bydd yr adnoddau yn fendith i bobl.
Ymgyrch efengylu yn y Sioe Frenhinol.
Bydd MEC yn gweithio ar faes y sioe Frenhinol wythnos nesaf. Plîs gweddïwch dros Malcom Macdonald (arweinydd) a gweddill y tîm fydd yn rhannu’r efengyl.
Diolch am eich gweddiau, a plis cofiwch fod gymaint o bethau eraill yn digwydd sydd angen gweddiau – ymgyrchoedd y traethau, Gwaith Cristnogol yn yr Eisteddfod, cyrsiau ieuenctid yng Ngholeg y Bala, ymgyrchoedd eraill a llawer mwy.
Gadewch i ni bwyso a galw ar Dduw gyda’n gilydd.
Er gogoniant Iddo,
Steffan Job
Cydlynydd y gwaith