Oherwydd briw merch fy mhobl yr wyf finnau wedi fy mriwo, wedi galaru, ac wedi fy nal gan syndod. Onid oes balm yn Gilead? Onid oes yno ffisigwr? Pam, ynteu, nad yw iechyd merch fy mhobl yn gwella?
Jeremeia 8:21-22
Gall gwaith yr efengyl yn aml fod yn waith caled ond cawsom ein calonogi’r wythnos ddiwethaf wrth glywed am ddynes a ddaeth i mewn i un o’n siopau. Dywedodd y ddynes ei bod wedi galw heibio’r siop rai blynyddoedd yn ôl gan chwilio am Feibl gan fod ganddi ddiddordeb Ysbrydol ac fe gafodd sgwrs gyda’r rheolwr a phrynu Beibl. Dywedodd y ddynes ei bod bellach wedi dod i gredu, wedi ei bedyddio ac yn aelod mewn eglwys leol. Cawsom hefyd ein rhyfeddu gan hanes lle cysylltodd gwr Mwslemaidd gyda gweinidog yng Ngogledd Ddwyrain Cymru gan ddweud ei fod angen gwybod mwy am Iesu – roedd Duw wedi datguddio iddo fod yn rhaid iddo wneud hyn. Mae Duw yn dda!
Gweddi am MEC
Cynadleddau’r Haf
Mae Jeremy Bailey, cadeirydd y gynhadledd Saesneg yn gofyn am weddi am fater penodol:
‘Rydym angen wardeiniaid ar gyfer ein blociau ieuenctid yn Aberystwyth eleni. Mae angen dau gwpwl sydd yn brofiadol o ofalu am bobl ifanc. Gweddïwch y byddwn yn darganfod y bobl gywir’.
Gweddïwch hefyd dros Ian Parry a Trystan Hallam, y ddau brif siaradwr yn y cynadleddau eleni.
Bryn y Groes
Dywed Gwydion a Catrin Lewis (rheolwyr y ganolfan):
Rydyn ni’n teimlo ein bod yn tynnu tua’r terfyn gyda’r gwaith adeiladu ym Mryn-y- Groes – diolch i chi am barhau i weddïo. Mae’r tirlunio, plymio a’r gwaith trydanol yn cael eu gorffen. Rydyn ni’n aros am ddrws blaen a grisiau i’r atic i gyrraedd. Mae’r ceginau yn mynd i gael eu gosod unrhyw ddiwrnod. Ac mae’r manion adeiladu olaf i fod i gael eu gorffen o fewn y tair wythnos nesaf. Gweddïwch os gwelwch yn dda y bydd y Gwaith yna cael ei orffen mewn pryd i weithgareddau’r haf.
Ymgyrch y Sioe Frenhinol.
Byddwn yn bresennol os Duw a’i myn yn y sioe (22-25 Gorffennaf) yn ceisio estyn allan gyda’r efengyl. Sam Oldridge (Borras Park) fydd yn arwain y tîm eleni. Rydym angen cymorth ambell i eglwys ar ddyddiau sbesiffig. Gweddïwch dros hyn, a gweddïwch y bydd pobl yn cael eu hachub drwy’r gwaith. (Am fwy o fanylion am yr ymgyrch, cysylltwch gyda Steffan yn swyddfa’r Gogledd).
Cymru
Dywed Andy Pitt, gweinidog Park Baptist Church ym Merthyr – Yr wythnos nesaf byddwn yn gweithio gyda 70 o Americanwyr o Atlanta a chriw o 20 o bobl ifanc o Brighton. Byddant yn ein helpu i gyrraedd tua thair mil o bobl ifanc gyda’r efengyl. Diolch i Dduw fod y cyfle i fynd i’r ysgolion lleol yn parhau. Byddwn hefyd yn ymweld â chwe thref leol yn y nosweithiau gyda chôr a chyflwyniad clir o’r efengyl. Mae gennym hefyd dim gweithredu cymdeithasol (community action team), tim ty coffi a thîm cartrefi preswyl fydd yn gweithio drwy’r dref yn ystod yr wythnos. Gweddïwch y bydd Duw yn cael ei ogoneddu ac y gwelwn bobl yn cael eu hachub.
Gweddïwch dros fore coffi dysgwyr yng Nghapel y Ffynnon Bangor ddydd Sadwrn. Gweddïwch y bydd y cysylltiadau yn dwyn ffrwyth ac y bydd pobl yn clywed yr efengyl.
Wythnos nesaf fe fydd yr Eisteddfod ryngwladol yn Llangollen. Gweddïwch dros eglwys efengylaidd Glanrafon fydd yn rhannu’r efengyl drwy gydol yr wythnos.