Clywch a gwrandewch; peidiwch ag ymfalchïo, canys llefarodd yr ARGLWYDD.
Rhowch ogoniant i’r ARGLWYDD eich Duw cyn iddo beri tywyllwch, a chyn i’ch traed faglu yn y gwyll ar y mynyddoedd; a thra byddwch yn disgwyl am olau, bydd yntau’n ei droi yn dywyllwch dudew, ac yn ei wneud yn nos ddu.
Ac os na wrandewch ar hyn, mi wylaf yn y dirgel am eich balchder; fe ffrydia fy llygaid ddagrau chwerw, oherwydd dwyn diadell yr ARGLWYDD i gaethiwed.
Jeremeia 13: 15-17
Rydym yn byw mewn cenhedlaeth lle mae gymaint yn ymfalchïo yn ei hunain ac yn peidio gwrando ar yr Arglwydd a’i neges o wirionedd a gras. Boed i’r Arglwydd roi i ni, ei Eglwys, yr ysbryd oedd gan Jeremeia i wylo a gweddïo dros y rhai sydd yn gaeth i bechod a barn.
MEC
- Ar ddydd Iau byddwn grŵp bugeiliol MEC yn cyfarfod yn Aberystwyth. Mae’r grŵp bugeiliol yn cynnwys gweinidogion o bob rhan o Gymru, ac maent yn dod at ei gilydd i weddïo, rhannu a chynllunio’r gwaith i arweinwyr. Mae dau bwynt ar yr agenda yn sefyll allan y tro yma – y dyddiau hyfforddi eglwysi a’r gynhadledd gweinidogion yn y Bala yn 2020. Gweddïwch dros y digwyddiadau a dros y grŵp bugeiliol.
- Mae’r rhifyn nesaf o Holi yn cael ei roi at ei gilydd yr wythnos yma. Gweddïwch dros Steffan sy’n arwain y prosiect a dros bawb sy’n cyfrannu. Mae llawer o erthyglau eto – tystiolaethau, cyflwyniadau o’r efengyl, erthyglau apologeteg. Gweddïwch dros bawb fydd yn darllen y cylchgrawn – ar i Dduw achub a bendithio.
Cymru
- Cofiwch am yr ymgyrchoedd sy’n digwydd ym Merthyr a Llangollen yr wythnos hon (gweler y llythyr gweddi ddiwethaf am wybodaeth).
- Gweddïwch dros Eglwys y Bedyddwyr yn Nhywyn sydd yn cynllunio ymgyrch ar hyn o bryd. Maent yn rhedeg dyddiau hyfforddi ar ddyddiau Sadwrn ac maent hefyd yn gofyn am weddi dros y clwb ieuenctid yn y Bermo (o’r enw The Ark) sy’n digwydd ar nosweithiau Mawrth.
- Mae Llanelli Free Evangelical Church yn cyfarfod am ei Café church diweddaraf yr wythnos hon. Gweddïwch dros yr eglwys wrth iddi geisio estyn allan i’r gymuned.
- Bydd y South Wales Revival Conference yn cael ei gynnal ym Mhen y bont yr wythnos nesaf. Gweddïwch dros y siaradwyr ac ar i Dduw fendithio’r cyfarfodydd a rhoi baich i weddïo am adfywiad yn ein gwlad.
- Bydd cynhadledd Eglwysi Efengylaidd y Gogledd yn digwydd ym Mryn-y-groes ddydd Sadwrn yma. Gweddïwch y bydd Duw yn bendithio’r weinidogaeth (Steffan Jones sy’n pregethu) a gweddïwch y bydd Duw yn bendithio tystiolaeth yr eglwysi hyn wrth iddynt geisio cyrraedd y cymunedau Cymreig.