Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Bwletin Gweddi 17 Mawrth 2021

ac wele, yr oedd gorsedd wedi ei gosod yn y nef, ac ar yr orsedd un yn eistedd. Datguddiad 4:2b

Mewn ychydig fisoedd byddwn yn mynd, or yw’r cyfyngiadau yn caniatáu, i’r gorsafoedd pleidleisio ar gyfer ein hetholiadau cenedlaethol. Rydym yn sicr wedi dysgu pa mor bwysig yw cael arweinwyr sy’n gallu defnyddio awdurdod yn ddoeth ac yn ofalus dros y blynyddoedd diwethaf. Mae bod yn arweinydd yn waith anodd, yn enwedig felly yn y byd toredig hwn, ac mae angen i ni weddïo amdanynt. Ond mae’n gymaint o gysur gwybod nad dyn neu ddynes syrthiedig fel chi a minnau yw ein harweinydd go iawn – yn hytrach yr Arglwydd hollalluog sy’n eistedd ar yr orsedd yn y nefoedd.

Cefais fy atgoffa o hyn gan fy mod wedi cael y fraint o ddarllen trwy ddefosiynau Pete Campbell ar Ddatguddiad 4 a 5 yr wythnos hon (os nad ydych wedi cofrestru ar eu cyfer – mae’n werth ei wneud). Er y gall pob dydd ymddangos fel ‘groundhog day’, ac er y gallwn ei chael yn anodd weithiau i weld y ffordd ymlaen, mae’n gysur rhyfeddol gwybod bod y Duw yn rheoli. Ef yw’r un sy’n teyrnasu, a’i orsedd sydd yng nghanol pob realiti, ac mae gennym y fraint o fynd ato trwy waed ei Fab.

Diolch eto am eich partneriaeth weddigar barhaus yn yr efengyl – dim ond trwy Ei allu y gallwn barhau i wasanaethu eglwysi’r efengyl a Christnogion yng Nghymru.

Steffan Job (Swyddfa Gogledd Cymru)

Cymru yn gyffredinol

  • Gadewch inni ddiolch i Dduw am fendithion y misoedd diwethaf gan ein bod wedi gweld y brechlyn yn cael ei gyflwyno mor drefnus a llwyddiannus. Ymunwch â ni i weddïo y bydd llacio’r lockdown yn dod â phobl i sylweddoli eu hangen am Waredwr – yr Ysbryd yn unig a all argyhoeddi pobl o hyn. Gofynnwn ichi weddïo’n arbennig am yr holl weithgareddau efengylu a fydd yn digwydd ledled y wlad dros gyfnod y Pasg.

Ymunwch â ni i ddiolch i’r Arglwydd am:

  • Yr Alwad i Weddi – Bob blwyddyn, yn ystod wythnos gyntaf mis Mawrth, rydyn ni’n galw ar Gristnogion ledled Cymru i weddïo dros ein cenedl. Thema’r Alwad eleni oedd Duw ei hun. Bob dydd roeddem yn tynnu cysur a gweddi o ganolbwyntio ar agwedd wahanol ar gymeriad Duw. Er bod y niferoedd yn y cyfarfodydd gweddi ar-lein yn weddol fach, rydym yn diolch i Dduw am yr ysbryd gweddigar, a gobeithiwn fod y negeseuon dyddiol a anfonwyd at gannoedd yn ddefnyddiol. Roedd yn dda gallu sylweddoli unwaith eto am ein dibyniaeth lwyr ar Dduw – Yn Dad, Mab ac Ysbryd Glân.
  • Cynhadledd Merched De Cymru – Ymunwch â ni i ddiolch i’r Arglwydd am weinidogaeth Elinor Magowan yng Nghynhadledd Merched De Cymru. Yn yr un modd â chymaint o bethau, defnyddiodd yr Arglwydd yr anawsterau covid-19 i ddod â bendith gan fod cymaint o wragedd ychwanegol wedi gallu ymuno â’r gynhadledd ar-lein. Thema’r gynhadledd oedd ‘Arglwydd ni allaf wneud hyn ar fy mhen fy hun – sut i ddyfnhau awydd, ceisio cyfeiriad ac adnabod Duw yn well fel menyw heddiw’. Roedd yn amlwg bod yr Ysbryd wedi defnyddio’r gynhadledd i annog a chryfhau llawer.
  • Y Defosiynau – Yn y bwletin gweddi ddiwethaf gwnaethom ofyn am weddi dros y defosiynau, a chyda diolchgarwch y gallwn adrodd bod grŵp o awduron wedi dod ynghyd i gyfrannu at y defosiynau. Bydd hyn yn ysgafnhau’r pwysau ar yr ysgrifenwyr rheolaidd a bydd yn rhoi anogaeth a bendith mawr eu hangen i’r cannoedd sy’n darllen y defosiynau.
  • Y Cylchgronau – Ymunwch â ni i ddiolch i’r Arglwydd am weinidogaeth y cylchgronau. Mae’r ddau fwrdd golygyddol wedi bod yn brysur yn paratoi’r rhifynnau diweddaraf, ac rydym yn ddiolchgar am y ffocws efengyl ganolog a’r cymorth bugeiliol a roddir i bobl trwy’r cylchgronau hyn yn rheolaidd. Bydd y Cylchgrawn yn dod drwy’r post yr wythnos nesaf.
  • Cyfarfodydd Cymorth Ar-lein Eraill – Diolch i’r Arglwydd am y weinidogaeth a’r gefnogaeth a ddarparwyd trwy gyfarfod Gwragedd y Gweinidogion a chyfarfod Gweithwyr Ieuenctid a Phlant a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf.

Gweddïwch dros:

  • Bwletinau gweddi – Efallai ei bod yn ymddangos ychydig yn rhyfedd gofyn am weddi am fwletinau gweddi! Ein baich yw bod eglwysi a Christnogion yn defnyddio’r bwletinau hyn i rannu ceisiadau gweddi – rhywbeth a ddigwyddodd yn rheolaidd ychydig flynyddoedd yn ôl. Fodd bynnag, mae’r pandemig, a threigl amser wedi achosi inni weld llai o gyfraniadau. Gweddïwch, os bydd yr Arglwydd yn ewyllysio hynny, y byddai pobl yn cyfrannu fel ein bod yn annog mwy o undod efengyl a baich gweddi ymysg ein gilydd.
  • Gwersyll y Pasg – Ar ôl cael mini-gwersyll Cymraeg mor llwyddiannus, rydym wedi penderfynu rhedeg dau Wersyll Zoom Saesneg ar-lein yn y cyfnod cyn y Pasg. Mae’r manylion llawn ar y wefan (www.emw.org.uk), ac mae llawer o bobl ifanc eisoes wedi archebu lle. Gweddïwch am yr holl drefniadau ymarferol os gwelwch yn dda, ond yn anad dim gweddïwch y byddai’r Duw yn defnyddio’r gwersylloedd hyn i achub, annog a helpu’r bobl ifanc.
  • TeamTalk – Ddoe gwelwyd y cyntaf o dair sesiwn gan Geoff Thomas ar ‘Pregethu Gethsemane, Golgotha, a’r atgyfodiad.’ Ymunodd dros saith deg o arweinwyr â’r cyfarfod a chawsant eu bendithio a’u herio wrth i Geoff ddangos inni ein gwir angen gweddïo a dibynnu ar Dduw, yn union fel y gwnaeth Iesu yn yr ardd. Gweddïwch os gwelwch yn dda y bydd y ddau gyfarfod nesaf yn fendith i arweinwyr wrth iddyn nhw baratoi i weinidogaethu dros y Pasg.
  • Brawd – Plîs gweddïwch dros sesiwn nesaf Brawd i weinidogion fydd yn digwydd wythnos nesaf (Dydd Mercher am 10.00) lle y bydd Rhun Murphy yn ein harwain i feddwl am weddïo dros y colledig. Gweddïwch y bydd y cyfarfod yn fendith ac yn anogaeth i’r gweinidogion.
  • Haf – Rydyn ni’n brysur yn gweddïo ac yn cynllunio ar gyfer ein digwyddiadau haf. Gweddïwch am ddoethineb wrth i ni geisio dod o hyd i’r ffyrdd mwyaf priodol o annog Cristnogion a helpu Eglwysi i estyn allan. Gweddïwch yn arbennig ar gyfer y Gynhadledd Haf (lle y bydd Derrick Adams yn siarad), y gwersylloedd (rydyn ni’n gobeithio trefnu rhaglen o wersylloedd o amgylch Cymru) a’r gwaith cenhadol gyda rhifyn Haf posib o Holi.
  • Y Wasg – Bydd tri llyfr yn mynd at yr argraffwyr yn ystod yr wythnosau nesaf. Gweddïwch dros y ddau lyfr Cymraeg os gwelwch yn dda, ‘Darllen Effesiaid’ gan Emyr James a casgliad o emynau Noel Gibbard. Cyfieithiad o lyfr Cymraeg yw’r llyfr arall a fydd yn ymddangos, ‘What is a Christian?’ gan Gwynn Williams. Rydyn ni am i’n llyfrau fod o gymorth i Gristnogion, gan eu hannog wrth gerdded gyda Duw a chyfeirio pobl at Grist.
  • Siopau Llyfrau – Mae’n debygol y bydd ein siopau llyfrau yn gallu ailagor yn ystod yr wythnosau nesaf. Gweddïwch dros ein staff a’n gwirfoddolwyr wrth iddyn nhw baratoi i agor eu drysau, gan ddarparu mwy o gyfleoedd i’r efengyl.
  • Bydd Bryn y Groes – Ein canolfan gynadledda, yn ailagor fel darparwr gwyliau yn ystod yr wythnosau nesaf. Er bod hyn yn dod ag incwm mawr ei angen, gweddïwn y byddai cyfyngiadau yn cael eu lleddfu cyn gynted â phosibl fel y gallwn ddefnyddio’r ganolfan i’w llawn botensial i wasanaethu Eglwysi a Christnogion.