11 Mehefin 2019
Un peth a ofynnais gan yr ARGLWYDD, dyma’r wyf yn ei geisio: cael byw yn nhŷ’r ARGLWYDD holl ddyddiau fy mywyd, i edrych ar hawddgarwch yr ARGLWYDD ac i ymofyn yn ei deml.
Rwyf ar hyn o bryd yn eistedd mewn ystafell fawr wag yn y Bala. Mae dynion wedi dechrau cyrraedd ar gyfer y gynhadledd – ac o fewn yr awr fe fydd yr ystafell yn llawn o ganu mawl i’r Arglwydd. O am weld gwacter ein gwlad yn cael ei lewni yn yr un modd. Rydym angen iddo Ef symud.
Boed i chi brofi bendith yr Arglwydd yr wythnos hon.
Gweddi dros Gymru
- Y sadwrn yma rhwng 2 a 5 bydd Eglwys Efengylaidd yr Heath, Caerdydd gyda stondin mewn sioe ysgol leol ar ffordd yr Eglwysnewydd. Nid yw wedi ei wneud o’r blaen ac felly gweddiwch am y cyfle da yma i rannu’r efengyl a chodi ymwybyddiaeth am yr eglwys. Bydd llenyddiaeth Cristnogol yn cael ei rannu a bydd tegannau plant yn cael eu gwerthu.
- Bydd criw o Americanwyr yn rhannu llenyddiaeth Gristnogol yr wythnos hon yn Machynlleth. Gweddiwch dros hyn.
Gweddi dros MEC
- Cynhadledd y Bala
- Gweddiwch os gwelwch yn dda dros y dynion sy’n bresenol. Rydym yn disgwyl dros 80 o ddynion sy’n llafurio a gofalu am yr eglwys dros y wlad – rydym angen eu cofio mewn gweddi. Mae nifer o ddynion wedi methu dod eleni am resymau gwahanol – llawer oherwydd eu bod yn gofalu am aelodau o’u teulu sy’n sal, Plis gweddiwch.
- Gwersyll Saesneg 7 a’r gwersylloedd Cymraeg
- Rydym wedi’n calonogi gyda’r niferoedd sydd wedi archebu ar gyfer ein gwersylloedd Saesneg eleni, gyda niferoedd yn uwch na’r llynedd. Wedi dwued hynny mae yn rai gwersylloedd sydd gyda amell i le gwag, ac fe fyddai’n biti colli allan ar y cyfle i rannu’r efengyl gyda phobl ifanc. Gweddiwch dros wersyll Saesneg rhif 7 (17-24 Awst) a dros y ddau wersyll Cymraeg sy’n rhedeg 10-17 Awst. Gweddiwch hefyd dros y timau sy’n brysur baratoi.