Pwrpas brawd yw uno gweinidogion yr efengyl fel eu bod yn gallu annog a helpu eu gilydd.
Cychwynodd y cyfarfod yn ystod cyfnod cloi covid-19, lle cafodd gwahoddiad agored ei roi i fois sy’n gweinidogaethu i ddod at eu gilydd yn wythnosol i rannu a gweddio. Profodd hyn yn gymorth i nifer wrth iddynt fedru rhannu beichiau, trafod syniadau a gweddio gyda’i gilydd.
Gan edrych i’r dyfodol rydym am barhau gyda’r cyfarfodydd arlein yma – i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf gwnewch yn siwr eich bod wedi tanysgrifio gyda’ch ebost i’r rhestr Gweinidogion.
Cyfarfod Nesaf:
Nos Lun, 8 Chwefror, 8 o’r gloch
Er mwyn cofrestru cysylltwch gyda Steffan Job (steffanjob@mudiad-efengylaidd.org) i dderbyn y manylion Zoom.