Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Blwyddyn Newydd

“Bydd yr ARGLWYDD yn cysuro Seion, yn cysuro ei holl fannau anghyfannedd; bydd yn gwneud ei hanialwch yn Eden, a’i diffeithwch yn ardd yr ARGLWYDD; ceir o’i mewn lawenydd a gorfoledd, emyn diolch a sain cân.” Eseia 51:3

Mae’r Nadolig wedi mynd heibio ac rydym yn awr yn edrych ymlaen at y flwyddyn sydd o’n blaenau. Wrth i mi fodio drwy dudalennau’r Radio Times yr wythnos hon fedrwn i ddim peidio sylwi ar yr holl hysbysebion gwyliau oedd yno – lle hoffech chi fynd?

Roedd llawer o lefydd yn cael eu cynnig… Twrci (er dwi’n meddwl mod i wedi cael digon dros Nadolig), Barbados, saffari yn Affrica neu fordaith i Norwy. Byddai un o’r llefydd hynny yn braf iawn! Ond rwy’n siŵr fod yna un lle yr hoffai pob Cristion ymweld ag o – Gardd Eden. Pe bai’n bosib oni fyddech yn rhoi’ch holl eiddo i ymweld â’r lle hyfryd hwnnw? Mae’n rhaid ei fod wedi bod yn lle rhyfeddol wrth i brydferthwch y greadigaeth glymu’n berffaith gyda’r ffaith fod dyn, dynes a Duw yn cyd-fyw yn agored ac mewn gwirionedd. Dim marwolaeth, dim twyll, dim pechod a dim melltith.

Wrth i ni wynebu’r flwyddyn nesaf, mae’n gysur gwybod na fydd yn rhaid i ni deithio’n bell i gael blas o Eden. Mae’r felltith wedi ei chodi drwy waith ac aberth perffaith Iesu ac mae’r ffordd yn agored i bawb sydd wedi eu hachub a’u cymodi â Duw. Fel mae Paul yn dweud yn ei ail lythyr at y Corinthiaid “Felly, os yw rhywun yng Nghrist, y mae’n greadigaeth newydd; aeth yr hen heibio, y mae’r newydd yma. Ond gwaith Duw yw’r cyfan – Duw, yr hwn sydd wedi ein cymodi ni ag ef ei hun trwy Grist a rhoi i ni weinidogaeth y cymod.”

Mae’n bosib ein bod yn teimlo ofnau real a gofid wrth feddwl am beth sy’n ein hwynebu wrth i ni gerdded drwy fannau anghyfannedd y byd hwn yn y flwyddyn sydd i ddod. Gwelwn realiti’r pechod sydd yn ein calonnau a’n heglwysi; pechod all ymosod ar ein sicrwydd a llongddryllio ein tystiolaeth a cherddediad gyda’r Arglwydd mor hawdd. Gwyddom am rai o’r pethau sydd o’n blaenau – ond medrwn wynebu’r cyfan gyda llawenydd a gorfoledd gan wybod fod Duw gyda ni.

Wrth i ni wynebu’r flwyddyn nesaf, gadewch i ni wneud hynny gyda gobaith cadarn a ffydd yn Iesu. Ymunwch gyda ni i weddïo y bydd Duw yn ein cysuro ac yn rhoi’r fath olwg ar Ei gryfder, gras a gogoniant. O ddibynnu ar ein nerth ein hunain byddwn yn methu, ond wrth edrych ar wyneb Iesu, cawn ein trawsnewid i mewn i fyddin nerthol fydd yn canu gyda diolchgarwch yr holl ffordd adref i Eden newydd a gwell!

Pob bendith eleni,

Steffan Job

Ar ran tîm MEC

Newyddion diwethaf

Newyddion nesaf