Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Archebion yn agor ar gyfer y Gynhadledd heddiw

Heddiw yw diwrnod agor yr archebion!

Bydd y prif gyfarfodydd yn digwydd yn y neuadd fawr – gofod mawr iawn sydd fel arfer yn dal dros 1000 o bobl. Ond oherwydd canllawiau cofid-19, ac er mwyn cadw pawb yn saff, dim ond lle i tua 200 fydd ar gael, ac mae’n ofynnol i ni osod pawb yn yr ystafell yn eu grwpiau (gyda 2m o ofod rhyngddynt).

Dyma pam y mae angen archebu eleni, ac rydym yn ddiolchgar iawn i Ganolfan y Celfyddydau sydd yn rhedeg y system archebu ar ein rhan. Deallwn ei fod ychydig yn chwithig archebu lle yn y modd hyn, ond rhaid oedd ffeindio ffordd i wneud y cyfan yn saff ac yn drefnus. Cost pob cyfarfod fydd £5 i oedolyn a £2 i blentyn. Bydd yr archebion yn agor am 10 y bore ar Fehefin 30. Bydd yr holl fanylion ar wefan MEC. Gofynnwn i chi sylwi ar yu canlynol:

Plis archebwch yn eich teulu estynedig/swigen, er mwyn sicrhau ein bod yn medru ffitio gymaint a phosib i bob cyfarfod.
Rydym yn rhedeg system docynnau ar gyfer pob cyfarfod – gellir archebu i fwy nag un cyfarfod drwy ddefnyddio’r botwm ‘Book more tickets’ fydd yn gadael i chi ddewis tocynnau ar gyfer yr anerchiadau eraill.
Bydd angen talu am y tocynnau wrth archebu.
Gellir hefyd archebu drwy ffonio’r swyddfa docynnau yn Aberystwyth – 01970 62 32 32
Wrth archebu, gofynnir i chi os hoffech gyfrannu tuag at yr elusen – y Ganolfan Gelfyddydau yw hon – nid MEC.
Byddwn ar gael yn y swyddfa i ateb cwestiynau os oes angen. 0800 4647676

Dolenni:

Bore Mawrth am 11.00 (17 Awst) – Anerchiad 1 gan Derrick Adams – https://uk.patronbase.com/_Aberystwyth/Productions/58W/Performances
Prynhawn Mawrth am 4.00 (17 Awst) – Anerchiad 2 gan Derrick Adams – https://uk.patronbase.com/_Aberystwyth/Productions/58X/Performances
Bore Mercher am 11.00 (18 Awst) – Anerchiad 3 gan Derrick Adams – https://uk.patronbase.com/_Aberystwyth/Productions/58Y/Performances
Prynhawn Mercher am 4.00 (18 Awst) – Anerchiad 4 gan Derrick Adams – https://uk.patronbase.com/_Aberystwyth/Productions/58Z/Performances